Mae darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ben ei digon ar ôl cael ei henwebu ar gyfer gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys, a hynny am ei gwaith i wella’r gofal i blant a phobol ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd.

Mae Nicole Crimmings newydd ei phenodi’n ddarlithydd nyrsio, a hithau’n gweithio yn hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg cyn symud i’r gorllewin.

Mae wedi cael ei henwebu yng ngwobrau blynyddol Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru oherwydd ei gwaith arloesol hi a’i chydweithiwr wrth ffurfio partneriaeth rhwng Tŷ Hafan a’r Uned Gofal Dwys Pediatrig yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, a Nyrsys Rhoi Organau Arbenigol.

Roedd y newidiadau wedi gwella gofal diwedd oes plant a phobol ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau, a’u teuluoedd yn eu galar.

Rhoddodd y bartneriaeth ragor o gyfleoedd i’r teuluoedd a chyfeillion mewn galar dreulio amser gyda chleifion yn y cyfnod wedi iddyn nhw roi organau, ac i rannu atgofion.

Mae gan Nicole Crimmings 27 mlynedd o brofiad nyrsio, a hithau wedi gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, ac Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Gobeithio helpu eraill

Wrth ymateb i’r enwebiad arwyddocaol hwn, dywed Nicole Crimmings mai ei gobaith yw helpu eraill a dysgu’r genhedlaeth nesaf o nyrsys.

Dywed y bu’n fraint gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae’r enwebiad ar gyfer fy nghydweithiwr yn Nhŷ Hafan a minnau wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwaith yn mynd ymlaen i helpu llawer o deuluoedd sy’n mynd trwy gyfnodau mor anodd.

“Mae wedi bod yn fraint gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector elusennol am gymaint o flynyddoedd.

“Fel cynifer o weithwyr eraill, rydyn ni’n ceisio gwneud cymaint o wahaniaeth ag y gallwn ni.

“Yn fy rôl addysgu newydd yn Aberystwyth, rwy’n gobeithio rhannu rhywfaint o’r profiad hwnnw â’r genhedlaeth nesaf o nyrsys sydd wedi’u hymddiried i ofalu am rai o’n plant a’n hoedolion mwyaf bregus.”

Manteision y bartneriaeth

Yn ôl Nicole Crimmings, mae nifer o fanteision i’r bartneriaeth y bu’n helpu i’w sefydlu.

“Gyda chysylltiadau cryfach yn eu lle rhwng yr Uned Gofal Critigol Pediatrig a Thŷ Hafan, roedd yn llawer haws cyfeirio plant oedd yn agosáu at ddiwedd eu hoes, oherwydd salwch neu anaf trawmatig, yn gynharach,” meddai.

“Felly, yn lle bod anwyliaid yn ffarwelio â drysau’r theatr llawdriniaethau, gallan nhw wneud hynny yn yr hosbis, amgylchedd mwy personol a llai meddygol.

“Gall y rhai sy’n galaru hefyd dderbyn cymorth parhaus, penodol am gyhyd ag y dymunant, wrth iddynt wynebu’r anawsterau aruthrol pan fydd plant a phobl ifanc yn marw.

“Mae hefyd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw rannu atgofion yn well gyda’u ffrindiau a’u teulu, a bydd yr atgofion hynny’n para am oes.”

Arfer da

Mae Nicole Crimmings, sy’n cynnig gofal i blant a theuluoedd ar adeg dyngedfennol, yn teimlo’n hapus ei bod yn gallu parhau i ddatblygu ymarfer da.

“Roedd yn foment ble roeddwn yn freintiedig iawn, ac roedd yn gyffrous iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n teimlo’n arbennig iawn gwybod ar ôl yr holl amser hwn, y gallwn barhau i ddatblygu ymarfer, yn enwedig gyda phlant â chyflyrau a salwch sy’n byrhau bywyd.

“Roedden ni wrth ein bodd.

“Rwy’ wrth fy modd.

“Mae’r gydnabyddiaeth gan fy rheolwr llinell, a gydnabu’r darn o waith o’u datblygiad a chael y gydnabyddiaeth honno, yn eich sbarduno.

“Dim ond amser cyffrous iawn ydyw.

“Rwy’n meddwl, os gallwn ni wneud gwahaniaeth i un teulu a phlentyn, yna dyna beth yw’r pwrpas.

“Mae’n ymwneud ag ansawdd y gofal rydych yn ei ddarparu i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a chefnogi’r teuluoedd sy’n wynebu un o’u hunllefau gwaethaf.

“Rwy’n meddwl os gallwn wneud hynny ychydig yn haws ar adeg marwolaeth neu ar yr adeg ar ôl rhoi organau plant, yna mae hynny’n wych.

“Rwy’n gyffrous, ac rwy’ wedi croesi popeth ar gyfer dydd Iau.”

‘Cydweithio fel tîm’

“Dydw i ddim yn gweithio yn yr hosbis bellach gan fy mod wedi dod ymlaen i addysg,” meddai wedyn.

“I mi, roedd yn ymwneud ag arwain tîm.

“Roeddwn yn arweinydd dros wyth aelod o staff, ac i ni, roedd yn ymwneud â chydweithio fel tîm a gweld beth y gallem ei gael o hynny a gweithio mor agos gyda’r teuluoedd a’r plant.

“Roedd pethau’n datblygu drwy’r amser, wnaeth ein galluogi ni i gael ein croesawu gyda’n datblygiadau a’n syniadau am lwybrau newydd.

“Rwy’n meddwl, i ni, mae meddygaeth bediatrig a gofal meddygol pediatrig yn ymchwil a chanlyniad sy’n newid yn barhaus ac yn newid o hyd, felly roedd bod o fewn y cyfnod hwnnw’n gyfnod cyffrous iawn oherwydd rydyn ni’n gwybod ei fod yn arloesol.

“Hefyd, mae disgwyliadau teuluoedd wedi newid dros y blynyddoedd, felly roedd yn gyffrous ac yn galonogol i ni allu cydnabod bod bwlch yn y gwasanaeth i ofal hosbis a sut y gallai’r ddau fyd ddod at ei gilydd.

“Er mwyn i ni allu rhwydweithio’n ehangach, rwy’n meddwl ei fod yn gyfnod diddorol ac yn gyfnod cyffrous, ac i ddod o hyd i ddarnau o ymchwil sydd wedi’u gwneud ym maes gofal lliniarol yn Lloegr, yn Swydd Efrog, fe roddodd ychydig bach o sbring fwrdd inni.

“Roedd yn dair blynedd a hanner gwych.

“Arweinydd cymorth teulu oedd fy rôl, a oedd yn golygu fy mod yn arwain tîm o wyth o gefndiroedd amrywiol, megis gwaith cymdeithasol, therapi teulu, cwnsela, ac ati.

“Roedd yn ymwneud â meddwl y tu allan i’r bocs, ac o fy nghysylltiadau blaenorol â gofal dwys pediatrig yng Nghaerdydd, a dod â’r ddau ynghyd.

“I mi, roedd yn ymwneud â gwneud yn siŵr eich bod yn diwallu’r anghenion sy’n newid yn barhaus, a thrwy hynny wneud y cysylltiadau’n gryfach rhwng gofal dwys pediatrig a’r hosbis.

“Efo’r cysylltiadau oedd yna, roedden nhw’n llac iawn, byddwn i’n dweud.

“Rwy’n meddwl bod ein gwybodaeth am bobl a fu’n gweithio ym maes gofal dwys gweithredol arweiniol, ar ôl gweithio gyda nhw am wyth mlynedd, wedi fy ngalluogi i ddefnyddio’r cysylltiadau hynny ymhellach.

“Roedd yn gam enfawr ymlaen.”

“Pwysigrwydd eithriadol” y gwaith

Mae Amanda Jones, Prif Arweinydd mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cydnabod y gwaith.

“Mae’r enwebiadau hyn yn dyst i bwysigrwydd eithriadol gwaith Nicole yn y gwasanaeth iechyd,” meddai.

“Rwy’n siŵr y bydd ei gwaith yn ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr a’n staff yma wrth iddyn nhw fynd ymlaen i’n gwasanaethu ni oll yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Bydd y noson wobrau Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 29).

Mae Nicole Crimmings wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Nyrsio Gofal Lliniarol Pediatrig Suzanne Goodall yn ogystal â’r wobr Nyrs y Flwyddyn.