Mae golwg360 yn deall bod Play Airlines wedi canslo teithiau o Faes Awyr Caerdydd ar fyr rybudd, gan orfodi teithwyr i wneud trefniadau amgen.

Fis Ebrill eleni, daeth cyhoeddiad fod y cwmni am gynnig teithiau o brifddinas Cymru i Keflavík yn yr hydref, gan roi “hwb ardderchog i dwristiaeth yng Nghymru”.

Dywedon nhw y byddai modd i drigolion Gwlad yr Iâ ymweld â Chymru “a phrofi ein traethau, llwybrau arfordirol, cestyll, cyrsiau golff, mynyddoedd a lleoliadau siopa o safon fyd-eang”.

Yn yr un modd, byddai teithwyr o Gymru’n gallu cael blas ar “ryfeddodau naturiol” Gwlad yr Iâ, gan gynnwys rhaeadrau, dyfroedd eraill a Goleuadau’r Gogledd.

Roedd bwriad hefyd i’r teithiau gynnig dolen gyswllt i ddinasoedd mawr yr Unol Daleithiau a Chanada.

Y nod oedd cynnig dau hediad wythnosol am chwe wythnos o Hydref 10, gyda thimau pêl-droed y ddwy wlad yn herio’i gilydd yng Ngwlad yr Iâ ar Hydref 11 a Chaerdydd ar Dachwedd 19.

Byr rybudd

Un sydd wedi cael ei heffeithio yw Tracy Jones o Abertawe.

Roedd hi a’i chariad Andreas yn bwriadu teithio i Wlad yr Iâ i ddathlu pen-blwydd ac i archwilio hanes teulu Andreas yng Ngwlad yr Iâ.

Ond ar ôl cael neges yn dweud bod eu taith o Gaerdydd wedi cael ei chanslo, maen nhw bellach wedi archebu hediad arall o Lundain drwy British Airways.

“Ges i neges destun awr yn ôl i ddweud bo nhw wedi anfon e-bost bwysig i fi am y flight,” meddai Tracy Jones o Abertawe wrth golwg360.

“O’n i’n meddwl taw time change fyddai e, achos fi wedi cael nhw o’r blaen, ond na, ‘Cancelled‘.

“Yr opsiynau oedd ‘Refund‘ neu newid, ac un peth arall, ond es i am y refund a bwcio flight ASAP o Lundain.

“Gutted achos roeddwn i’n meddwl y byddai Play wedi bod yn addition grêt i Gaerdydd.

“Ond roedd e jyst yn fater o “Sorry, your flight is cancelled, here are the options“.

“Doeddwn i ddim yn siŵr os taw jyst flight ni oedd wedi cael ei chanslo neu os oedden nhw wedi tynnu allan yn gyfan gwbl.”

Un sy’n cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol yw cyfrif X (Twitter gynt) Rich’s Travels.

“Felly wnaeth hi ddim cymryd yn hir i’r llwybr dros dro yma gan Play Air ddod hyd yn oed yn fwy dros dro, Faes Awyr Caerdydd, wrth i gwsmeriaid sydd wedi bwcio gael eu rhybuddion am ganslo” meddai.

Ymateb Maes Awyr Caerdydd

“Rydym wedi’n synnu a’n siomi fod Play Airlines wedi canslo rhai hediadau tymhorol rhwng Cymru a Gwlad yr Iâ fis nesaf,” meddai Spencer Birns, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd mewn datganiad i golwg360.

“Rydym wedi cael ein hysbysu fod hyn o ganlyniad i fater technegol yn ymwneud ag awyren, ac yn anffodus mae hyn wedi effeithio ar yr amserlen gafodd ei chynllunio.

“Rydym yn gwerthfawrogi fod hyn yn destun siom i’n cwsmeriaid.

“Fodd bynnag, mae opsiwn i ailarchebu, gan fod y cwmni awyr yn dal yn bwriadu gweithredu wyth hediad uniongyrchol rhwng meysydd awyr Caerdydd a Keflavík ym mis Hydref.”

Dylai unrhyw un ag ymholiadau gysylltu â Play Airlines yn uniongyrchol, meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Play Airlines.