Mae disgwyl dadl ynghylch yr enw Cymraeg ar bentref yn Sir y Fflint, gyda phryderon am y cyfieithiad Saesneg o’r enw.

Pentre Cythraul yw’r enw Cymraeg lleol ar New Brighton ger yr Wyddgrug, ond dydy’r enw erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.

Lansiodd trigolion ddeiseb yn 2019 i’w gynnwys ar restr swyddogol o enwau lleoedd sy’n cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Cododd rhai trigolion bryderon yn ystod ymgynghoriad ar y cynlluniau, gan fod modd cyfieithu’r enw Pentre Cythraul i ‘The Devil’s Village’ yn Saesneg.

Tarddiad yr enw Cymraeg

Mae lle i gredu y cafodd y pentref ei enwi’n Pentre Catherall yn wreiddiol ar ôl y diwydiannwr Josiah Catherall, oedd wedi adeiladu tai cynta’r pentref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ond bydd gofyn i gynghorwyr ar y meinciau cefn yn Sir y Fflint gefnogi awgrym Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yr wythnos hon y dylid ei adnabod wrth yr enw Pentre Cythrel yn y dyfodol.

Mewn adroddiad, dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, fod hyn o ganlyniad i ystyr negyddol Pentre Cythraul.

“Mae’r Comisiynydd wedi awgrymu cefnogaeth i’r defnydd o ffurf Gymraeg ffurfiol ar New Brighton, ond mae’n well ganddi Pentre Cythrel, gan fod yr enw’n ddatblygiad ar lafar o ‘Catherall’ ac mae’n adlewyrchu sut y caiff yr enw ei ynganu’n lleol,” meddai.

“Byddai defnyddio ‘Cythraul’ yn symud cam ymhellach i ffwrdd o’r enw gwreiddiol ar lafar.

“Mae trigolion lleol sy’n defnyddio’r enw Cymraeg Pentre Cythraul yn cefnogi awgrym y panel, sef Pentre Cythrel.

“Bydd yr enw Cymraeg Pentre Cythrel hefyd yn mynd i’r afaqel â’r gwrthwynebiadau gododd yn yr ymgynghoriad a’r cysylltiadau negyddol â Phentre Cythraul.”

Pentre Cythraul

Mae Pentre Cythraul wedi cael ei ddefnyddio’n lleol fel ffurf Gymraeg ar New Brighton ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi’i gynnwys ar drwyddedau gyrru’r DVLA.

Mae hefyd yn ymddangos ar nifer o arwyddion yn y pentref, gan gynnwys un ar y Ganolfan Gymunedol.

Dywedodd Claire Homard y byddai angen diweddaru’r Local Land and Property Gazetteer (LLPG) i adlewyrchu unrhyw newidiadau, a hysbysu cyrff fel yr Arolwg Ordnans a’r Post Brenhinol.

“Bydd cydnabod ffurf Gymraeg ar New Brighton yn ffurfiol yn cefnogi strategaeth y Cyngor i hyrwyddo’r Gymraeg drwy gynyddu gweladwyedd yr iaith,” meddai.

“Mae hefyd yn sicrhau y caiff y Gymraeg ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg.

“Fyddai mabwysiadu enw Cymraeg ddim yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol, gan fod modd newid arwyddion pan fyddan nhw’n cael eu hadnewyddu.”

Penderfyniad

Bydd gofyn i Bwyllgor Craffu Adnoddau Corfforaethol Sir y Fflint gymeradwyo’r enw Cymraeg newydd ar New Brighton yn ystod cyfarfod ddydd Iau (Hydref 10).

Bydd yn mynd gerbron Cabinet y Cyngor wedyn am benderfyniad terfynol, cyn y bydd modd hysbysu’r Comisiynydd fel bod modd ei gynnwys ar restr swyddogol o enwau lleoedd.