Mae’r Gymraes Gymraeg gyntaf wedi’i phenodi i rôl Uwch Grwner yng Nghymru.

Dywed Cyngor Gwynedd eu bod nhw ‘wrth eu boddau’ o gael cyhoeddi penodiad Kate Robertson (Sutherland gynt) yn Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, sy’n cwmpasu siroedd Gwynedd a Môn.

Daw Kate Robertson â “chyfoeth o brofiad a chysylltiad dwfn â’r gymuned leol”, meddai’r Cyngor, a hithau’n Uwch Grwner dros dro ers Rhagfyr 2020, yn dilyn ymddeoliad Dewi Pritchard Jones.

Mae ei phenodiad yn garreg filltir arwyddocaol, fel y Gymraes Gymraeg gyntaf i’w phenodi i rôl Uwch Grwner yng Nghymru.

A’i chefndir ym maes ymgyfreithiad, daw Kate Robertson â gwybodaeth ac arbenigedd helaeth i’r swydd.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Kate Robertson ei geni a’i magu yng ngogledd Cymru, cyn mynd yn ei blaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerlŷr a Choleg y Gyfraith yn Guildford a chael hyfforddiant yn Hampshire.

Ar ôl dychwelyd i ogledd Cymru, gweithiodd hi i gwmni cyfreithiol lleol lle daeth hi’n un o’u cyfarwyddwyr benywaidd cyntaf.

Mae ei phrofiad proffesiynol yn ymestyn y tu hwnt i’w rôl fel cyfreithwraig a chrwner, gan ei bod hi’n aml yn rhoi hyfforddiant i sefydliadau megis y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddygon teulu a’r heddlu.

Mae hi wedi cyhoeddi nifer o Adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol, gan gyfrannu at wella adrannau’r llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynghorau lleol yn eu hymdrechion i atal damweiniau trasig.

Mae hi’n aelod o Bwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar y Gymraeg a’r Grŵp Adolygu Gwenwyn Cyffuriau Marwol.

Ymhellach, mae hi’n gadeirydd ar gyrff llywodraethu dwy ysgol.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r rôl fawreddog hon, ac rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu’r rhanbarth,” meddai Kate Robertson.

“Rwy’n dychmygu na fydd y rhan fwyaf o bobol fyth yn dod i gysylltiad â Swyddfa’r Crwner, ond mae’n parhau’n rôl hollbwysig o fewn y farnwriaeth.

“Gobeithio y byddaf yn dod â’m profiad o amryw o swyddi cyfreithiol blaenorol i’r rôl gwasanaeth cyhoeddus hon.

“Hoffwn dalu teyrnged hefyd i’m rhagflaenydd, Dewi Pritchard Jones, oedd wedi gwasanaethu’r gymuned hon am gynifer o flynyddoedd.”

‘Llongyfarchiadau’

“Ar ran y Cyngor, gaf fi longyfarch Kate ar ei phenodiad yn Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer gogledd-orllewin Cymru,” meddai Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd.

“Gyda’i chysylltiadau lleol, ei phrofiad helaeth ac arwyddocâd hanesyddol fel y Gymraes Gymraeg gyntaf i gael y swydd hon, rwy’n gwybod y bydd hi’n parhau i wasanaethu’r gymuned ag ymroddiad a thegwch.”