Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi ymddiheuro ar ôl ateb e-byst Cymraeg yn Almaeneg.

Cafodd y Cynghorydd Louise Hughes ei diarddel am fis ym mis Ebrill, ar ôl anfon atebion at Howard Huws ym mis Rhagfyr 2021 ac eto fis Chwefror y llynedd.

Mae Howard Huws yn aelod o Gylch yr Iaith, grŵp sy’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Fe wnaeth e gwyno’n swyddogol, a chytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod gweithredoedd Louise Hughes wedi torri’r cod ymddygiad ar gyfer cynghorwyr.

Fe wnaeth pwyllgor gytuno’n swyddogol ar adroddiad i ganlyniadau’r ymchwiliad.

‘Difrifol’

Fe wnaeth pwyllgor safonau Cyngor Gwynedd gyfarfod ddydd Llun (Mehefin 26) i gymeradwyo dogfen yn dirwyn y broses gwyno yn erbyn y cynghorydd i ben.

Adeg y digwyddiad, dywedodd Cynghorydd Annibynnol Arthog a Llangelynnin ei bod hi wedi bwriadu bod yn “ysgafn”.

Daeth cadarnhad bellach iddi ysgrifennu at Howard Huws yn ymddiheuro, ac nad oedd hi wedi achub ar y cyfle ffurfiol i apelio yn erbyn ei chosb.

O edrych ar ymddygiad y cynghorydd “yn ei gyfanrwydd”, nododd adroddiad fod y pwyllgor yn teimlo bod y mater yn ddigon difrifol fel ei bod hi’n “dwyn anfri ar ei swyddfa a’r awdurdod”.

Ystyriodd ffactorau lliniarus hefyd, gan gynnwys hyd gwasanaeth, cydymffurfio â’r swyddog ymchwilio a’r pwyllgor safonau, ei hymddiheuriad a derbyn yr angen i addasu ei hymddygiad yn y dyfodol.

Ystyriodd hefyd dystiolaeth yr awdurdod yn cadarnhau diffyg darpariaeth gyfieithu pan gafodd yr e-byst eu derbyn.

Serch hynny, nododd hefyd y “gallai hi fod wedi gofyn am gymorth” os mai deall y cyd-destun oedd bwriad y cynghorydd.

Gofynnwyd i’r pwyllgor gymeradwyo adroddiad er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol, a gwnaethon nhw hynny.

Mater oedd “heb fod yn bleserus”

“Adroddiad statudol yw hwn, ac mae ei angen er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn dod i ben,” meddai Iwan Evans, y Swyddog Monitro.

“Rwy’n argymell fod yr adroddiad atodedig yn cael ei dderbyn er mwyn i ni ei ddirwyn i ben.

“Roedd y Cynghorydd Louise Hughes wedi ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro wrth Howard Huws, a dydy hi ddim am apelio ar y mater.”

Yn ôl Eifion Jones, cadeirydd y cyfarfod, doedd ymdrin â’r mater “heb fod yn bleserus”.

Galwodd ar y pwyllgor i gefnogi’r adroddiad i ddirwyn y materion y ben, a diolchodd i awdur yr adroddiad, gan ddweud bod “llawer o amser a gwaith wedi mynd i mewn iddo”.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r Swyddog Monitro gyhoeddi eu hadroddiad llawn a sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd.