Mae Mabon ap Gwynfor yn “addo gwneud popeth” o fewn ei allu i sicrhau statws swyddogol i fan gwyrdd cymunedol yn Nhywyn.
Mae trigolion Awel Dyfi a Ffordd Dyfed wedi defnyddio’r man gwyrdd ar yr ystâd ers tro fel canolbwynt cymunedol, gyda digwyddiadau codi arian a digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar y llecyn gwyrdd.
Mae trigolion lleol bellach yn ceisio statws swyddogol ar gyfer y tir er mwyn diogelu’r gofod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’i warchod rhag datblygiad.
‘Annog cyfranogiad cymunedol pellach’
“Bu’r darn o dir gwyrdd rhwng Awel Dyfi a Ffordd Dyfed yn achubiaeth yn ystod dyddiau tywyll y pandemig Covid, gan gynnig noddfa ddiogel ar gyfer cerdded, ymarfer corff a chadw mewn cysylltiad â chymdogion yn yr awyr agored,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd ar ôl ymweld â’r safle.
“Arweiniodd hyn yn anochel at ragor o weithgareddau cymunedol a digwyddiadau codi arian.
“Mae ysbryd cymunedol cryf ar y stad a byddai rhoi statws gwyrdd swyddogol i’r safle yn diogelu’r gweithgareddau hyn ar gyfer y dyfodol ac yn annog cyfranogiad cymunedol pellach.
“Ar ôl siarad yn helaeth â llawer o’r trigolion lleol, mae awydd amlwg i weld y darn hwn o fan gwyrdd gwerthfawr yn cael ei warchod yn swyddogol.
“Rwy’n addo gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi’r gymuned yn eu hymdrechion ac yn edrych ymlaen yn fawr at fynychu digwyddiad yno yn y dyfodol agos.”
Cryfhau rhyngweithio cymdeithasol
Aelod arall o’r blaid sy’n cefnogi’r ymgyrch yw Liz Saville Roberts.
“Mae’r darn hwn o dir yn ganolbwynt i drigolion lleol – gan ddod â’r gymuned ynghyd â chryfhau rhyngweithio cymdeithasol,” meddai arweinydd y blaid yn San Steffan ac Aelod Seneddol yr etholaeth.
“Mae’r man gwyrdd wedi’i ddefnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau codi arian ar gyfer elusennau megis Sefydliad Prydeinig y Galon ac Ambiwlans Awyr Cymru, a deallaf fod yr Ambiwlans Awyr wedi gorfod glanio yno ar o leiaf un achlysur.
“Mae’n ofod cymunedol hyfryd, wedi’i leoli rhwng tai Awel Dyfi a Ffordd Dyfed – felly mae’n ofod cyfleus a diogel i drigolion lleol ddod at ei gilydd, cymdeithasu a chynnal digwyddiadau.
“Dymunaf yn dda i’r trigolion yn eu hymdrechion i sicrhau statws swyddogol i’r tir gwyrdd ac rwy’n fwy na pharod i’w cefnogi gyda’r ymgyrch.”