Bydd y Bil Amaethyddiaeth cyntaf erioed i’w lunio yng Nghymru yn cyrraedd y cyfnod craffu terfynol yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 27).

Pe bai Aelodau’r Senedd yn pleidleisio o blaid y Bil ac yn ei basio, bydd Cydsyniad Brenhinol yn cael ei geisio, ac os caiff ei dderbyn, bydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru.

Nod Bil Amaethyddiaeth Cymru yw paratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth i helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a gwarchod a gwella cefn gwlad, diwylliant ac iaith Cymru.

Tynnodd adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd sylw at y cyfraniad pwysig mae ffermio ac amaethyddiaeth yn ei wneud o ran mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a bydd y Bil Amaethyddiaeth yn ffordd allweddol o gyrraedd y nod hwnnw, medd Llywodraeth Cymru.

Y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys yr ymrwymiad a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i wahardd defnyddio maglau, a thrapiau glud, sy’n golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwaharddiad llwyr.

Mae hefyd yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a diogelu’r amgylchedd yn well yn ystod gwaith i gwympo coed, gan gydnabod gwerth ein coetiroedd fel adnodd naturiol yn ogystal â’u gwerth fel cynefin.

Mae’r Bil yn rhoi’r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol, gan sicrhau hefyd ar yr un pryd y bydd cymorth yn dal i gael ei roi i ffermwyr yn ystod cyfnod pontio.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig fydd prif ffynhonnell y cymorth y bydd y Llywodraeth yn ei roi i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

Y nod o reoli tir yn gynaliadwy yw sail y gwaith i ddylunio’r camau arfaethedig y bydd gofyn i ffermwyr ei gyflawni dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y Bil hefyd yn diogelu tenantiaid amaethyddol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu cyfyngu’n annheg rhag cael gafael ar gymorth ariannol.

‘Gwneud gwahaniaeth go iawn’

“Mae Bil Amaethyddiaeth Cymru yn gyfle inni ddatblygu deddfwriaeth a’r system gymorth gyntaf erioed i gael ei chreu yng Nghymru – system a fydd yn gweithio i ffermwyr Cymru, i’r sector amaethyddiaeth, i’n tir, ac i Gymru gyfan,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig.

“Mae’n ffermwyr yn dal i fynd i’r afael â heriau gwahanol, a bydd y Bil hwn yn fframwaith pwysig ar gyfer darparu cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol.

“Mae’n amlinellu sut gallwn ni gadw ffermwyr ar y tir i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy ac i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig, drwy gymryd camau breision i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

“Os caiff y Bil ei basio, Cymru hefyd fydd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud, sy’n greulon ac yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i rywogaethau ac sydd hyd yn oed yn eu lladd.”