Mae “popeth yn edrych yn bositif” wrth edrych ymlaen at y Sioe Frenhinol eleni, medd cadeirydd bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Bydd Sioe Frenhinol Cymru 2023 yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 24 a 27, a’r gobaith yw y bydd pethau wedi dychwelyd i’r arfer ar ôl y cyfnod clo, medd Wynne Jones.
Yr wythnos hon (dydd Mercher, Mehefin 28), bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnal lansiad swyddogol cyntaf y Sioe yn y Senedd.
Bydd pedwar diwrnod o gystadlaethau dangos da byw, a gweithgareddau eraill fel coedwigaeth, crefftau, bwyd a diod, a chwaraeon.
‘Normal’ ar ôl y cyfnod clo
Cafodd y Sioe ei chynnal am y tro cyntaf ar ôl y cyfnod clo y llynedd, er bod y tywydd poeth wedi cael rhywfaint o effaith arni.
“Wrth gwrs mae gennym fel cymdeithas sawl amcan i lwyddiant y sioe eleni, ond dydy’r Sioe Fawr ei hun dim ond yn un o’r pethau. Rydym yn gweithredu fel elusen – elusen aelodaeth hefyd,” meddai Wynne Jones, Cadeirydd bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth golwg360.
“Beth rydym eisiau am y sioe eleni yw dod mor agos ag y gallwn ni at fod yn normal.
“Hwyrach ar ôl yr helbul rydym wedi cael efo Covid, rydym wedi cael un sioe lwyddiannus llynedd, ond roedd y niferoedd i lawr ychydig, hwyrach oherwydd y tywydd.
“Hwyrach bod y stondinau masnachol i lawr ychydig bach.
“Eleni, mae popeth yn edrych yn gadarnhaol iawn.
“Mae rhifau aelodaeth i fyny, mae [nifer] stondinau fyny.
“Mae’r ceisiadau i’r gwartheg, defaid, ceffylau a moch i fyny ac felly rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn glir fod yna gymaint o bethau gwahanol i weld ac i brofi yn y sioe, a’u bod nhw am gael gwerth am arian wrth ddod atom ni yn Llanelwedd.”
Datblygiadau newydd
Eleni, mae pentref bwyd newydd yn rhan o’r Sioe – Pentref Bwyd Cymreig fydd yn cynnwys stondinau bwyd ynghyd â llwyfan cerddoriaeth byw – ac am y tro cyntaf, byddan nhw’n dibynnu ar ynni adnewyddadwy yn unig.
“Mae yna sawl peth newydd gennym eleni, mae hynny yn bwysig,” meddai Wynne Jones.
“Mae gennym brofiad o gynnal gymaint sioeau rŵan ac wrth gwrs mae iechyd a diogelwch yn bwysig dros ben i ni.
“Mae yna grŵp o fewn tref Llanelwedd rydym yn cydweithio efo i wneud yn siŵr bod ni’n cynnal a gweithredu popeth cyn saffed ag y medrwn ni. Dyna ydy’r her fwyaf.
“Llynedd, roedd pawb yn poeni am y tywydd poeth.
“Rydym wedi buddsoddi llawer mewn ffans a llefydd i bobol gysgodi os Mae’n boeth.
“Mae’r rhagolygon tywydd yn eithaf normal eleni.”