Daeth cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Mehefin 26) fod Llywodraeth Cymru am ddarparu £200,000 er mwyn helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru.

Mae’n rhan o ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ariannu hen fentrau a rhai newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â diffygion o ran gwybodaeth.

Bydd sefydliadau annibynnol yn y cyfryngau cymunedol yn elwa ar £100,000.

Mae’r Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi hyd at ddeg sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion budd y cyhoedd sy’n berthnasol yn lleol ac i hyrwyddo twf yn y sector newyddion cymunedol yng Nghymru.

Mae’r grant yn cael ei hwyluso gan Ping! News CIC – cwmni buddiant cymunedol sy’n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) a’r datblygwr o Fryste, Omni Digital.

Prosiectau peilot

Yn ogystal â’r gronfa newyddiaduraeth, mae tri phrosiect peilot fydd yn canolbwyntio ar y sector wedi sicrhau cyfran o’r £100,000 o gyllid ychwanegol.

Y tri phrosiect yw:

  • Y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) – Swydd Benodol ar gyfer Gohebydd yn y Senedd.
  • Prifysgol Caerdydd – Data Ymchwil am y Sector yng Nghymru.
  • Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru – Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol.

Yn rhan o’r cyllid i’r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol, bydd swydd newyddiadurol bwrpasol yn cael ei darparu ar gyfer gwaith y Senedd, fydd wedi’i lleoli yn swyddfeydd Caerphilly Media Ltd.

Bydd y rôl yn darparu cynnwys fydd ar gael i sefydliadau newyddion am ddim.

Bydd y cyllid ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn caniatáu iddyn nhw edrych yn benodol ar gyflwr y sector newyddiaduraeth yng Nghymru ar hyn o bryd, gan wneud hynny o bersbectif cynhyrchwyr a defnyddwyr.

Bydd y wybodaeth gafodd ei chasglu yn golygu y bydd modd paratoi cynllun gweithredu cynhwysfawr i gefnogi’r sector yn y dyfodol.

Er mwyn creu sector newyddiaduraeth fwy cynhwysol a chynrychioladol, bydd cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.

Byddan nhw’n darparu rhaglen newydd – y Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol – fydd yn cynnig hyfforddiant, yn darparu gweithdai rhyngweithiol ac yn rhoi cymorth dilynol i unrhyw un sydd am ddatblygu gyrfa ym maes y cyfryngau.

Y bwriad yw rhoi cymorth i feithrin amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys sgiliau ym maes entrepreneuriaeth, busnes, ymchwil a datblygu, a dylunio cynnyrch.

‘Rhoi llais penodol i Gymru’

“Mae sector cyfryngau cryf a ffyniannus yng Nghymru yn rhan hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd fodern,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Mae cyfryngau cryf ac annibynnol yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaeth cynhwysfawr sy’n rhoi gwybodaeth i bobl Cymru, ac sy’n eu haddysgu a’u hysbrydoli.

“Dw i’n falch iawn o fedru cyhoeddi’r cyllid hwn a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd.

“Bydd hefyd yn caniatáu inni asesu’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd ac i ddylanwadu ar gyllid ac ymyriadau yn y dyfodol.”

Newyddiaduraeth annibynnol

“Mae ar Gymru angen newyddiaduraeth annibynnol, gynhenid sydd â’i gwreiddiau yn ein cymunedau fel bo’r cymunedau hynny’n cael eu cefnogi i adrodd am faterion sy’n berthnasol ac yn bwysig yn lleol,” meddai Cefin Campbell, yrAelod Dynodedig.

“Mae rhoi sylw i straeon am Gymru o Gymru ei hun yn rhan hanfodol o’n proses ddemocrataidd.

“Drwy weithio gyda’n gilydd drwy’r Cytundeb Cydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gallu ariannu’r prosiectau hyn er mwyn iddyn nhw fedru helpu i roi llais penodol i Gymru ac i gefnogi newyddiaduraeth gynhenid i Gymru.”