Bydd rhaid i gyrff sy’n rheoleiddio proffesiynau iechyd gadw at safonau Cymraeg erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mehefin 26) y bydd rhaid i gyrff fel Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg.
Bydd hyn yn galluogi aelodau o’r proffesiynau, fel meddygon, nyrsys a deintyddion, i gofrestru â’r sefydliadau drwy Gymraeg.
Byddan nhw hefyd yn cynnig hawliau iddyn nhw o ran achosion cyfreithiol, ac yn arwain at osod safonau gwasanaethau a gweithredu pellach.
Mae’r safonau’n berthnasol i’r:
- Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
- Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Y Cyngor Optegol Cyffredinol
- Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
- Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
‘Hybu a hwyluso’r iaith’
Dyma’r tro cyntaf i Efa Gruffudd Jones osod safonau’r Gymraeg ar gyrff ers cychwyn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg yn gynharach eleni.
Dyma’r tro cyntaf y mae’r Comisiynydd wedi gallu ehangu hawliau drwy’r gyfundrefn safonau ers 2019 hefyd, wedi i reoliadau newydd gael eu pasio gan Senedd Cymru fis Hydref y llynedd.
“Nod y Safonau yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hybu a’i hwyluso’n amlwg,” meddai Efa Gruffudd Jones.
“Ym maes iechyd mae’n hollbwysig fod pobol yn cael cynnig derbyn gwasanaeth yn eu dewis iaith ac mae’r cam hyn heddiw o roi hysbysiad cydymffurfio i gyrff rheoleiddio’r proffesiynau iechyd yn ehangu’r hawliau i weithwyr y sector.
“Er mwyn i’r Gymraeg oroesi ac iddi fod yn iaith fyw y gellir ei defnyddio’n ddyddiol, mae angen iddi gael ei gweld yn amlwg ymhob maes gwaith o fewn ein cymunedau ac o fewn sectorau gwahanol.
“Hoffwn ddiolch i’r cyrff rheoleiddio am eu parodrwydd i gydweithio â ni wrth baratoi ar gyfer y cyfnod newydd hwn a byddwn yn eu cynorthwyo a’u cynghori ar ran nesaf y daith.”
‘Cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg’
Dywed Andrea Sutcliffe, Prif Weithredwr a Chofrestrydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ei bod hi’n “hanfodol” bod pawb yn gallu ymgysylltu â nhw ac elwa o’u rôl o “amddiffyn y cyhoedd trwy gynnal safonau uchel o waith nyrsio a bydwreigiaeth y mae gan bawb yr hawl i’w disgwyl”.
“Trwy weithredu’r safonau newydd hyn, byddwn yn sicrhau bod cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg i rannu eu profiadau o ofal nyrsio a bydwreigiaeth gyda ni, a chael mynediad at y wybodaeth a’r adnoddau allweddol sy’n eu helpu i ddeall ein rôl a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw,” meddai.
Bydd y safonau’n dod i rym y mis Rhagfyr eleni.