Mae safle glo brig mwyaf y Deyrnas Unedig wedi apelio yn erbyn gorchymyn i roi’r gorau i gloddio.
Roedd gorchymyn i roi’r gorau i gloddio ym mhwll glo Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful i fod i ddod i rym ddydd Mawrth (Mehefin 27), a byddai hynny wedi rhoi 28 diwrnod iddyn nhw ddod â’r cloddio i ben.
Daw hyn wedi i ganiatâd cynllunio’r safle ddod i ben fis Medi’r llynedd ar ôl pymtheg mlynedd o gloddio yno.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod y cwmni’n apelio yn erbyn y penderfyniad, ond dydyn nhw ddim wedi rhoi ymateb pellach, gan nad ydyn nhw am “beryglu unrhyw benderfyniad y bydd yn rhaid i weinidogion Cymru ei wneud ar y mater yn y dyfodol.”
Cafodd yr apêl ei chadarnhau gan y cwmni mwyngloddio Merthyr (South Wales) Ltd hefyd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gall penderfyniad ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi gymryd hyd at 27 wythnos, neu fwy mewn rhai achosion.
Golyga hyn fod posibilrwydd y bydd yr apêl yn caniatáu oddeutu chwe mis pellach o gloddio ar y safle.
Cyhuddo’r Llywodraeth o ‘gamweinyddu’
Daeth y newyddion y byddai Ffos-y-Fran yn cau’n swyddogol fis Ebrill eleni wedi i gais y gweithredwyr am estyniad hyd at 2024 cael ei wrthod.
Ar y pryd, dywedodd swyddogion cynllunio na fyddai estyniad yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan drigolion, oedd yn dweud bod y llwch a’r synau uchel yn effeithio ar eu bywydau.
Fodd bynnag, mae cyfreithwyr ar ran y grŵp Coal Action Network wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “gamweinyddu” drwy beidio ag ymdrin â’r mater â mwy o frys, a methu â chyflwyno “rhybudd i stopio” yno.
Gwahaniaethau yn y gyfraith
Mae’r gwahaniaeth yn y gyfraith o ran cynllunio yng Nghymru a Lloegr yn rywbeth sydd eisoes wedi cael ei godi yn y Siambr gan Peredur Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Yn Lloegr, os oes apêl yn mynd drwyddo, mae’n rhaid stopio popeth nes bod yr apêl yn cael ei glywed,” meddai wrth golwg360.
“Y gwahaniaeth yng Nghymru ydy eu bod nhw’n gallu mynd ati i fwyngloddio tra mae’r apêl yn mynd trwyddo oni bai eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad.”
Roedd Peredur Griffiths wedi croesawu cau’r pwll glo oedd tua’r un maint â 400 o gaeau pêl-droed, ond roedd yn bryderus na fyddai’r safle’n cael ei adfer yn llawn.