Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’r cymorth maen nhw’n ei roi i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid, er mwyn ymateb i’r galw am fwy am wasanaethau, costau gweithredu uwch, a newid yn y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobol ifanc yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn helpu pobol ifanc i fyw bywydau sy’n dod â bodlonrwydd, gan ddarparu llefydd a chydberthnasau er mwyn iddyn nhw allu mwynhau, teimlo’n ddiogel, a theimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

I lawer o bobol ifanc sy’n agored i niwed, mae’r sefydliadau hyn yn cynnig llefydd diogel sydd ag oedolion dibynadwy i wrando arnyn nhw.

Gall y cyfleoedd unigryw gaiff eu cynnig gan waith ieuenctid gefnogi pobol ifanc drwy ddatblygiadau mawr yn eu bywydau a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Bydd 18 o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Ieuenctid y Rhyl a MIND Casnewydd, yn cael mwy na £1m o gyllid ychwanegol drwy’r Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol ar gyfer 2023-25, sy’n dod â’r cyfanswm sydd wedi’i ddyrannu ers i’r grant ddechrau fis Ebrill y llynedd i fwy na £2.9m.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £13m o gyllid uniongyrchol i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid eleni – dros dair gwaith y swm cyfatebol yn 2018.

Bydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn derbyn £180,000 ychwanegol i’w galluogi i dreialu Cynllun Cymorth i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, gan ddarparu grantiau bach o hyd at £7,500 y sefydliad i ddiogelu’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobol ifanc yn eu cymunedau.

Sefydliadau sy’n elwa

Mae GISDA yn sefydliad sy’n cefnogi pobol ifanc agored i niwed yn y gogledd.

Maen nhw’n darparu llety i Vex, person ifanc sydd wedi gadael gofal.

Caiff Vex gefnogaeth gweithiwr allweddol a chynghorydd personol i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, rheoli tenantiaeth a mynychu’r coleg.

Mae hefyd yn elwa ar gynllun peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Mae cymorth gan sefydliad gwaith ieuenctid wedi helpu Vex i fwynhau cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio, ac mae wedi ymddangos ar yr opera sebon Rownd a Rownd.

Bydd Vex hefyd yn chwarae un o brif rolau cynhyrchiad gan GISDA a grŵp theatr ieuenctid Frân Wen.

Ar ddydd Mawrth (Mehefin 27), cafodd digwyddiad Gwaith Ieuenctid Cymru ei gynnal i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid ac i ddangos y camau sy’n cael eu cymryd gan y sector.

‘Cefnogaeth i gyflawni potensial’

“Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddarparu amgylcheddau diogel i bobol ifanc lle cân nhw eu cefnogi i gyflawni eu potensial,” meddai Jeremy Miles.

“Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod angen gwasanaethau gwaith ieuenctid nawr yn fwy nag erioed.

“Dw i’n falch o allu darparu’r cyllid hwn i sefydliadau sydd â’r pŵer i newid bywydau pobol ifanc.”

Yn ôl Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, “ddylai cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal ddim cael eu penderfynu gan amgylchiadau eu plentyndod”.

“Mae’n wych clywed sut mae ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn rhoi’r cyfle i bobol ifanc fel Vex sefydlu eu hannibyniaeth a chyflawni eu potensial,” meddai.