Mae angen gwella gwasanaethau fasgwlaidd y gogledd yn sylweddol, yn ôl adolygiad o gynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Nod y broses gafodd ei defnyddio yw nodi methiannau o fewn gwasanaethau er mwyn ysgogi gwelliannau brys.

Nododd yr adolygiad dystiolaeth o gynnydd mewn perthynas â diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu.

Gwnaed y penderfyniad i gynnal yr adolygiad yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr yn 2022, oedd yn nodi nifer o argymhellion brys mewn perthynas â risgiau i ddiogelwch cleifion.

Roedd yr adolygiad yn cydnabod fod cynnydd boddhaol wedi’i wneud yn erbyn pob un o’r naw argymhelliad a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Dywed yr adroddiad fod y bwrdd iechyd wedi gwneud ymdrech i roi prosesau ar waith ac i wneud gwelliannau gyda’r nod o roi gofal diogel, amserol ac effeithiol i gleifion.

Er bod rhywfaint o gynnydd yn “gam cadarnhaol”, dywed yr adroddiad fod angen i’r bwrdd iechyd “gynnal y momentwm” er mwyn parhau i wella’r gwasanaeth.

Fis Ebrill 2019, newidiodd y bwrdd iechyd eu model gofal ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, lle roedd y llawdriniaethau mwyaf cymhleth, megis llawdriniaeth rhwydwelïol fawr, yn cael eu cynnal mewn canolfan arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Y nod yw sicrhau bod cleifion yn ardal y bwrdd iechyd yn cael yr un mynediad at wasanaethau fasgwlaidd lle bynnag maen nhw’n byw, a bod llawdriniaethau yn cael eu blaenoriaethu i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

‘Cynnydd boddhaol’

Yn ystod yr adolygiad, gwnaethon nhw ystyried a wnaeth y camau gweithredu gafodd eu rhoi ar waith gan y bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a gwella ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu.

Gwnaethon nhw ystyried hefyd a oedd y gofal fasgwlaidd yn gyson.

Gwnaed cynnydd boddhaol yn erbyn naw argymhelliad gafodd eu hamlinellu gan dîm adolygu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2022, a bod camau gweithredu brys wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pum argymhelliad brys o ran risgiau i ddiogelwch cleifion.

Mae angen gwneud rhagor o waith i gryfhau rhai agweddau ar gadw cofnodion clinigol, a sicrhau bod taith claf drwy’r llwybrau fasgwlaidd yn gyson ac yn gadarn.

Rhaid i’r bwrdd iechyd sicrhau bod ansawdd prosesau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei gynnal, a bod cofnodion yn cael eu ffeilio’n amserol ac mewn trefn gronolegol, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion bob amser, meddai’r adroddiad.

Cafodd Panel Adolygu Ansawdd Fasgwlaidd ei sefydlu gan y bwrdd iechyd i gynnal gwaith craffu pellach ar gofnodion y cleifion a chaiff ei adolygu gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn unigol.

O ganlyniad, mae gwybodaeth newydd wedi’i nodi ac mae’r bwrdd iechyd wedi atgyfeirio pedwar unigolyn at y crwner.

Drwy gydol yr adolygiad, roedd tystiolaeth fod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd boddhaol o ran y gwelliannau a argymhellwyd ar gyfer proses y Tîm Amlddisgyblaethol o wneud penderfyniadau.

Grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o arbenigeddau amrywiol yw tîm amlddisgyblaethol, megis llawfeddygon, anesthetyddion, nyrsys neu ffisiotherapyddion, sy’n cydweithio i wneud penderfyniadau ar y driniaeth a’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion.

Nododd arolygwyr bod camau gweithredu brys wedi’u rhoi ar waith yn y gwasanaeth llawdriniaeth fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys trefniadau cyflenwi ychwanegol a chymorth agosach i’r tîm amlddisgyblaethol wrth wneud penderfyniadau.

Er bod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud, mae angen i’r bwrdd iechyd wneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod trafodaethau’r tîm amlddisgyblaethol bob amser yn cael eu dogfennu’n ddi-oed mewn cofnodion clinigol, meddai’r adroddiad.

Tynnodd yr adolygiad sylw at bryderon ynglŷn â’r diwylliant gwaith rhwng rhai timau a oedd yn ymwneud â llwybrau gofal gwahanol wasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd, a all effeithio ar ofal cleifion.

Roedd hyn yn amlwg drwy ein cyfweliadau â’r staff, awgrymodd fod y prosesau cyfathrebu yn wael.

Mae’n rhaid meithrin cydberthnasau gwaith cliriach, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio’n ddi-oed, a bod cleifion yn cael eu hasesu gan y tîm mwyaf addas, er mwyn rhoi cyngor a gofal mwy amserol, meddai.

Roedd cynnydd boddhaol hefyd wedi cael ei wneud gan y bwrdd iechyd o ran y broses o gael cydsyniad yn y gwasanaethau fasgwlaidd.

Roedd tystiolaeth o welliannau drwy ganlyniadau archwilio ar y broses gydsynio a thrwy ein hadolygiad o gofnodion clinigol.

Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod cofnodion bob amser yn dangos y broses gydsynio gyfan mewn ffordd gywir a phriodol, medd yr adroddiad.

Pan aethon nhw ati i ystyried a oedd y trefniadau llywodraethu a oedd ar waith yn y bwrdd iechyd yn effeithiol o ran monitro’r ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2022, roedd y rhain yn foddhaol.

‘Gwaith gwella ehangach’

“Mae’n gadarnhaol clywed bod y gwasanaethau fasgwlaidd yn gwella mewn nifer o feysydd,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Fodd bynnag, gwnaed unarddeg o argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach yn ein hadolygiad er mwyn cryfhau’r trefniadau presennol sydd ar waith.

“Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd sicrhau bod mesurau ar waith i gael sicrwydd bod y gwelliannau a’r prosesau a gyflwynwyd ers adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.

“Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ystyried ein hargymhellion, ac rydym yn disgwyl iddynt gael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun gwaith gwella ehangach.”