Mae’r dyfarniad fod anfon ceiswyr lloches i Rwanda’n anghyfreithlon yn “fuddugoliaeth i hawliau dynol”, yn ôl Liz Saville Roberts.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i ymgyrchwyr a cheiswyr lloches fynd â’u hachos i’r Llys Apêl.
Mae’r dyfarniad diweddaraf yn mynd yn groes i ddyfarniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr oedd yn mynnu bod y cynllun yn gyfreithlon.
Fis yn ddiweddarach, serch hynny, fe roddodd yr hawl i apelio yn erbyn ei ddyfarniad ei hun.
Cafodd y polisi dadleuol ei gyflwyno pan oedd Boris Johnson yn Brif Weinidog, ond mae Rishi Sunak wedi parhau â’r cynllun ers iddo fe ddod yn Brif Weinidog wrth i’r llywodraeth geisio mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o gychod sy’n croesi’r Sianel.
Er i’r cynllun gael ei gyflwyno ar gost o £120m, does neb wedi’u halltudio i’r wlad yn Nwyrain Affrica yn sgil cyfres o heriau cyfreithiol.
Mae’n bosib y gallai’r dyfarniad diweddaraf arwain at wrandawiadau pellach yn y Goruchaf Lys a Llys Hawliau Dynol Ewrop.
‘Dydy Rwanda ddim yn drydedd wlad ddiogel’
“Mae barnwyr wedi penderfynu’r hyn roedden ni’n ei wybod o’r cychwyn – dydy Rwanda ddim yn drydedd wlad ddiogel,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae hon yn fuddugoliaeth i hawliau dynol.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu’r cynllun creulon hwn rŵan, a gosod dynoliaeth wrth galon eu system loches.
“Dylai hyn fod yn wers i’r Torïaid.
“Pan fo poblyddiaeth berfformiadol yn gwrthdaro â hawliau dynol sylfaenol, ei thynged yw methu.
“Byddai unrhyw ymgais gan Suella Braverman i danseilio’r dyfarniad hwn yn annoeth ac yn wrthgynhyrchiol.
“Yn hytrach, canolbwyntiwch ar adeiladu system loches go iawn.”