Mae data newydd yn dangos bod 75% o sefydliadau Cymru’n wynebu diffyg sgiliau yn eu gweithluoedd.
Dywed 70% ohonyn nhw fod hyn wedi arwain at lwyth gwaith cynyddol ar weithwyr, tra bod 45% yn dweud ei fod wedi amharu ar eu llesiant a’u morâl.
Daw’r data o’r adroddiad Business Barometer, sy’n cael ei gyhoeddi gan y Brifysgol Agored a Siambr Fasnach Prydain yn flynyddol.
Yn ôl yr adroddiad, mae bron i draean o gyflogwyr wedi cael eu hatal rhag cyflogi gweithwyr newydd yn y gorffennol, gan nad oedd ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl.
Cyflogwyr heb weithredu
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn awgrymu bod diffyg gweithrediad wedi bod ar ran y cyflogwyr i fynd i’r afael â’r broblem, gyda thros draean yn methu â chyhoeddi cynllun i gynyddu sgiliau yn y gweithlu.
Mae’r adroddiad yn awgrymu mai meithrin eu talent eu hunain yw’r ffordd ymlaen ar gyfer cyflogwyr.
Mae gweithlu oedrannus hefyd yn broblem arall sy’n wynebu cyflogwyr yng Nghymru, gyda 27% o weithwyr yn gadael er mwyn ymddeol.
Mae hyn yn achosi pryder gan nad oes digon o weithwyr sydd â’r sgiliau priodol i gymryd eu lle.
Creu Cynllun Sgiliau
Mae Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, yn bryderus am sefyllfa gweithluoedd ledled Cymru.
Dywed wrth golwg360 fod “problemau strwythurol hirdymor” ers cychwyn datganoli, a bod ffigyrau cyflogaeth wedi cael eu “diystyru”.
Wrth ymateb i’r diffyg sgiliau, awgryma Luke Fletcher fod angen creu Cynllun Sgiliau newydd i Gymru.
Dywed fod angen i’r cynllun fod â “ffocws penodol ar annog cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr i fynd i’r afael â phrinder sgiliau presennol”.
‘Sialens enfawr’
Dywed Rhys Griffiths, Rheolwr Perthynas Busnes Y Brifysgol Agored yng Nghymru, fod y diffyg sgiliau yn “sialens enfawr” i weithluoedd Cymru.
“Mae llawer o gyflogwyr a darparwyr addysg yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau hyn – er enghraifft drwy Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol – i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau, ac mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod angen i ni barhau i weithio tuag at ddiwallu anghenion sgiliau Cymru,” meddai.
“Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod cyflogwyr yn gorfod gwneud mwy gyda llai, a dyna sy’n gwneud cydweithio mor bwysig.”
Dywed fod cyrsiau hybrid y Brifysgol Agored yn bodoli er mwyn helpu gweithwyr i addasu i’r dirwedd busnes ar ôl Covid-19.
Yn ôl yr adroddiad, os na fydd buddsoddiadau’n cael eu gwneud i hyfforddi gweithluoedd yng Nghymru yn fuan, bydd cyflogwyr yn parhau i weld gostyngiadau yng ngweithgaredd eu gweithwyr.