Wrth i’r pwysau i reoleiddio’r farchnad tai yng Nghymru gynyddu, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod posteri ar adeiladau Llywodraeth Cymru yn datgan “Deddf Eiddo – dyma’r cyfle”.

Mae’r posteri wedi’u gosod heddiw (dydd Iau, Mehefin 29) ar adeiladau yn Aberystwyth, Caerdydd a Chyffordd Llandudno.

Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, mae’n “fater brys iawn” mewn cymunedau Cymraeg.

“Rhaid pasio Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hwn,” meddai.

“Mae’n haelodau wedi gosod posteri mawr yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau’r Llywodraeth, a daw y neges yn weladwy wedyn trwy’r wlad yn arwain at rali fawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ar ddydd Mercher, Awst 9.”

Adroddiad y Siarter Cartrefi

Mae’r Siarter Cartrefi wedi cyhoeddi adroddiad sy’n argymell “rheoli’r farchnad tai yng Nghymru”, sydd yn cyd-fynd yn union ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Eiddo.

“Rhaid i ni gynyddu’r ymgyrch i sicrhau fod Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi’n fuan a bod Bil o flaen y Senedd yn ystod y tymor hwn, yn 2024-25,” meddai Ffred Ffransis ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith.

“Mae ein amheuon am fwriad y llywodraeth i fynd at wraidd y broblem dai wedi cynyddu yr wythnos hon yn sgil cyhoeddiad y Prif Weinidog na bydd Bil Eiddo o flaen y Senedd yn y flwyddyn nesaf.

“Dywed Mark Drakeford fod angen rhoi ‘pobl o flaen elw’ wrth gyflwyno Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau, ac y mae’r un angen o ran rheoli’r farchnad dai.”

Cefnogaeth i reoleiddio’r farchnad tai yng Nghymru

Mae adroddiad Siarter Cartrefi Cymru yn cael ei lansio yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28)