Cafodd y Bil Amaethyddiaeth gyntaf i gael ei lunio yng Nghymru gefnogaeth unfrydol y Senedd yr wythnos hon.
Cafodd y Bil ei gyflwyno o dan arweiniad Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, ac mae disgwyl iddo ddod i rym rywbryd yn ystod yr haf pe bai’n derbyn Cydsyniad Brenhinol.
Yn ôl Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, un agwedd allweddol o’r Bil newydd yw ei fwriad o gefnogi’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.
Wrth siarad â golwg360, dywed fod cymhlethdodau ynglŷn â’r hyn y byddai cefnogi’r iaith a’r diwylliant o fewn amaethyddiaeth yn ei olygu ar lawr gwlad wedi golygu nad oedd wedi cael ei gynnwys yn y Bil gwreiddiol.
“Rydyn ni’n gwybod mai’r sector amaeth yw’r un fwyaf Cymraeg yn y byd o ran nifer y siaradwyr,” meddai.
“Felly mae rôl ffermydd teuluol y diwydiant amaeth yn gwbl greiddiol i ddyfodol y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig sydd wrth gwrs yn rhai o’n cymunedau fwyaf ymylol.”
Er bod y berthynas rhwng amddiffyn yr iaith a’r diwydiant amaethyddiaeth yn un gymhleth, dywed mai’r “ffordd amlwg i amddiffyn y Gymraeg mewn ardaloedd gwledig yw sicrhau bod yr economi wledig yn ffynnu”.
“Mae cynaliadwyedd economaidd busnes fferm yn greiddiol i sicrhau cynaliadwyedd y Gymraeg, mae’r ffactorau yma yn mynd law yn llaw,” meddai.
“Mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod busnesau fferm yn llewyrchus ac yn llwyddo.
“Allwch chi ddim dewis a dethol, mae’n rhaid iddyn nhw fynd law yn llaw.”
Cyfnewid nwyddau am arian
Un o brif amcanion y Bil yw sicrhau bod nwyddau cyhoeddus yn cael eu cyfnewid am arian cyhoeddus, oedd wedi’i amlinellu yn y ddogfen wreiddiol, Brexit a’n Tir, yn 2018.
“Mewn egwyddor, mae hynny’n rywbeth digon derbyniol ond y cwestiwn oedd, beth ydi’r nwyddau cyhoeddus yna, a bu dipyn o ddadl ynglŷn â’r ffaith nad oedd y Llywodraeth wedi cynnwys cynhyrchiant bwyd fel nwydd cyhoeddus,” meddai.
“I mi, cynhyrchu bwyd yw’r nwydd cyhoeddus mwyaf allweddol ohonyn nhw i gyd; mae’n beth sylfaenol ac yn rhoi bwyd ar blatiau’r genedl.”
Amddiffyn yr amgylchedd?
Dywed Llŷr Gruffydd fod amcanion amgylcheddol hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y Bil.
“Wrth gwrs, mae modd i’r sector amaeth wneud llawer mwy i gefnogi uchelgais amgylcheddol Cymru, ond mae’n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i’r busnesau yna,” meddai.
“Mae yna rolau pwysig o safbwynt amgylcheddol, o safbwynt bioamrywiaeth ac o safbwynt allyriadau carbon.
“Ond dydyn ni ddim eisiau aberthu hyfywedd cefn gwlad y busnesau fferm ar allor yr amgylchedd, mae’n rhaid i bopeth weithio gyda’i gilydd.”
Cynhyrchiant cefn gwlad
Dywed nad oedd rhai elfennau o’r Bil yn ddigon cryf ar y dechrau, megis y gydnabyddiaeth i rôl amaeth mewn cyd-destun economaidd i gymunedau cefn gwlad ehangach.
Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae pwysigrwydd cynhyrchiant ffermydd yn ystyriaeth gafodd ei hychwanegu i’r Bil yn ddiweddarach.
“Mae’n rhaid cydnabod, ac mae’r Bil yn gwneud hynny erbyn hyn, bod sicrhau cynaliadwyedd busnesau fferm yn un o bwrpasau canolog y ddeddfwriaeth yma,” meddai.
“Heb ffermydd cynaliadwy, mae’n tanseilio cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliant cefn gwlad.”
Brexit a’r Bil
Dywed fod y Bil newydd, sydd wedi ei lunio yng Nghymru, yn un o ganlyniadau Brexit.
“Cyn hyn, mae cefnogaeth amaethyddol wedi dod drwy gyfrwng y Polisi Amaeth Cyffredin ac o gyfeiriad yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Gan fod hwnnw’n dod i ben, mi roedd hi’n ofynnol ac yn rheidrwydd, mewn gwirionedd, ein bod ni’n cael Deddf Amaethyddol Gymreig er mwyn sicrhau bod cyfrwng i gefnogi amaeth yng Nghymru.
“Wedi dweud hynny, mae cael Bil bespoke Cymreig yn arwyddocaol, oherwydd mae o’n fframwaith rydyn ni wedi ei chreu yma yng Nghymru ac mae’n gosod allan blaenoriaethau Cymreig o ran pa ddibenion y gall y Llywodraeth ddarparu.”
Ariannu aml-flwyddyn
Mae’r Bil hefyd yn gam tuag at sicrwydd ariannol aml-flwyddyn.
Tra roedd tair blynedd o sicrwydd yn y Bil gwreiddiol, mae wedi’i ehangu i bum mlynedd erbyn hyn.
“Dydy ffermio ddim yn mynd o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’n bwysig cael y sicrwydd ariannol yna er mwyn cynnal busnes fferm,” meddai.
“Roedd yna sicrwydd saith mlynedd pan oedden ni’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond wrth gwrs, mae hynny’n bris arall mae’r sector wedi gorfod ei dalu yn sgil Brexit.
“Ond o leiaf bod yno nawr ymrwymiad o bum mlynedd, sydd yn rywbeth i’w groesawu hefyd.”
Dywed ei bod yn “arwyddocaol” fod y Bil wedi cael cefnogaeth unfrydol y Senedd, a bod hynny’n “dweud rhywbeth am y daith sydd wedi cael ei theithio o’r ddogfen gychwynnol i’r fersiwn derfynol.”