Logan Williams, cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi’i enwi’n Fyfyriwr Amaeth Gorau gwledydd Prydain gan y Farmers Weekly.

Gwobrau’r Farmers Weekly yw gwobrau “mwyaf mawreddog” y diwydiant amaeth, ac maen nhw’n “cydnabod llwyddiannau ffermwyr ledled y [Deyrnas Unedig]”.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae Logan Williams eisoes wedi cynrychioli Cymru ar lefel fyd-eang mewn treialon cŵn defaid.

Wrth astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn y brifysgol, roedd yn help mawr i’w rieni yn rhedeg fferm yn Nhirmynydd, ac mae bellach yn gweithio â chwmni bwyd Dunbia.

Myfyriwr “ymroddedig”

Cafodd Logan Williams ei ddisgrifio gan y beirniaid fel myfyriwr “ymroddedig” a “llwyddiannus iawn”, wrth iddyn nhw ddweud bod yr hyn mae wedi’i gyflawni eisoes “yn ddim llai na rhyfeddol”.

Dywed Logan Williams fod y fuddugoliaeth yn “anhygoel”.

“Dw i mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dw i wedi’i derbyn oddi wrth fy narlithwyr a’m teulu,” meddai.

“Amaethyddiaeth yw un o’r diwydiannau a’r pynciau hynny sydd jyst yn cario ymlaen i roi.

“Mae yna ddatblygiadau cyson mewn gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n sicrhau darpariaeth bwyd ar gyfer y boblogaeth gynyddol.”

Ychwanega fod y fuddugoliaeth yn “ffordd grêt o orffen” ei addysg.

Myfyriwr arall o Aberystwyth ar y rhestr fer

Fe wnaeth Caryl Davies, myfyriwr arall o Brifysgol Aberystwyth, gyrraedd y rhestr fer o dri ar gyfer y wobr.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, enillodd hi radd dosbarth cyntaf mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid.

Dywed fod cael bod yn rhan o’r gwobrau hyn yn deimlad “sbesial”.

“Yn ystod y cwrs, dw i wedi gallu astudio modiwlau fel geneteg, maeth, iechyd milfeddygol ac agronomeg, lle dw i wedi dysgu nifer o bethau newydd sy’n gallu cael eu cymhwyso i waith ymarferol ar y fferm, megis deall mwy am y dognau sydd eu hangen ar dda byw,” meddai.

“Trwy ymestyn fy ngorwelion i feysydd newydd yn ystod fy mlwyddyn fel prentis a’m gradd, dw i wedi cael y fantais fawr o brofiadau, sgiliau a gwybodaeth newydd.”

“Braint” cyfrannu at ddatblygiad cymunedau gwledig

Yn ôl Dr Manod Williams, darlithydd Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n “bleser” cael dysgu’r myfyrwyr sy’n ymddiddori yn y diwydiant.

“Mae’n destun balchder mawr i ni weld ein myfyrwyr yn llwyddo,” meddai.

“Rydyn ni wrth ein bodd o’u gweld yn gwneud cystal ar lefel mor uchel â’r gwobrau hyn.

“Mae amaeth yn rhan hollol ganolog o fywyd a chymunedau yma yng ngorllewin Cymru ac, yn wir, y genedl gyfan.

“Mae’n fraint i allu cyfrannu yn y Brifysgol at ddatblygiad ein cymunedau gwledig.”

Gwobrau eraill

Yn y seremoni yng ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain, cafodd y cyn-ddyfarnwr rygbi Nigel Owens ei enwi’n Bencampwr Ffermio’r Flwyddyn.

Aeth gwobr Ffermwr Bîff y Flwyddyn i Dylan Jones o fferm Castellior ar Ynys Môn, tra bod y wobr am Ffermwr Llaeth y Flwyddyn wedi mynd i Rheinallt a Rachel Harries o Lwynmendy Uchaf, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Jonathan Crimes o Cara Wales ei enwi’n Ymgynghorydd Da Byw y Flwyddyn, gyda David Howard o’r Wynnstay Group ymhlith y tri uchaf.