Flwyddyn ers ymosodiad Hamas ar Israel, mae Plaid Cymru’n dweud bod cryfhau’r ymdrechion diplomyddol i sicrhau cadoediad yn y Dwyrain Canol yn hollbwysig.
Fe wnaeth ymosodiad Hamas ar ŵyl gerddorol a chymunedau yng ngogledd Israel ar Hydref 7 y llynedd ladd 1,200 o Israeliaid, a chafodd 251 o bobol eu cymryd yn wystlon.
Digwyddiadau’r diwrnod hwnnw wnaeth arwain at ymosodiadau parhaus Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaethau bron i 42,000 o Balestiniaid, yn ôl gweinyddiaeth iechyd Hamas.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Israel wedi bomio dros 40,000 o dargedau, tra bo 13,200 o rocedi wedi’i saethu i Israel o Gaza.
Mae 12,400 o rocedi wedi’u saethu tuag at Israel o Libanus (Lebanon), ac mae cyrchoedd awyr Israel ar brifddinas Libanus, Beirut, a Gaza yn parhau.
Bu ffrwydradau enfawr yn ne Beirut dros nos, gydag Israel yn dweud eu bod nhw wedi taro llefydd oedd yn storio arfau’r grŵp militaraidd Hezbollah.
‘Osgoi trychineb’
Mewn datganiad ar y cyd, mae arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd y blaid yn San Steffan yn dweud eto bod angen cadoediad yn y rhanbarth er mwyn “osgoi trychineb”.
“Mae blwyddyn wedi pasio ers sioc ac erchylltra ymosodiad Hamas ar Hydref 7, wnaeth arwain at ymateb parhaus, anghymesur Israel, sydd wedi hawlio dros 40,000 o fywydau hyd yn hyn,” medd Rhun ap Iorwerth a Liz Saville Roberts.
“Nawr, gydag Israel yn goresgyn de Libanus a chyrchoedd taflegrau Iran, mae peryg i’r gwrthdaro ehangu’n rhyfel rhanbarthol llawn.
“Er mwyn osgoi trychineb, rhaid i ni gael cadoediad ar unwaith ledled y rhanbarth, rhyddhau’r holl wystlon, a rhaid i gyfraith ryngwladol reoli heb ofn na thuedd.
“Mae’r gwrthdaro cynyddol hwn yn drychinebus i’r rhanbarth ac yn peri risg mawr i sefydlogrwydd byd-eang.
“Rhaid i’r Deyrnas Unedig a chenhedloedd Gorllewinol eraill gynyddu eu hymdrechion diplomyddol i wella’r sefyllfa.
“Mae stopio allforio arfau o’r Deyrnas Unedig i’r rhanbarth yn gyfan gwbl yn angenrheidiol i osgoi gwaethygu pellach.”
Fe wnaeth Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, alw am roi’r gorau i gyflenwi arfau i Israel eu defnyddio yn Gaza dros y penwythnos.
Yn ei ymateb, dywedodd Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, fod yr alwad i stopio anfon arfau atyn nhw’n “warth”, a bod “Israel yn mynd i ennill gyda neu heb eu cefnogaeth”.
Fis Tachwedd y llynedd, roedd Senedd Cymru ymysg y seneddau cyntaf yn y byd i alw am gadoediad yn Gaza.
Ychwanega Rhun ap Iorwerth a Liz Saville Roberts fod angen ailbwysleisio’r alwad honno nawr.
‘Peidio ildio i derfysgaeth’
Ar X (Twitter gynt), mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod meddyliau’r blaid gyda’r gwystlon a’u teuluoedd, a’r rhai gafodd eu lladd ar Hydref 7, 2023.
“Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth terfysgwyr Hamas gyflawni ymosodiad erchyll, barbaraidd, heb ei bryfocio,” meddai.
“Wrth nodi bod blwyddyn wedi mynd heibio ers erchyllterau Hydref 7, mae ein meddyliau gyda’r gwystlon a’u teuluoedd, ynghyd â’r rhai gafodd eu lladd.
“Rhaid i ni beidio ag ildio i derfysgaeth, a rhaid i ni sefyll ynghyd yn y frwydr yn ei erbyn.”
Mae’n gorffen y trydariad gyda’r hashtag #SefyllGydagIsrael.