Mae Liz Saville Roberts wedi beirniadu’r penderfyniad i roi swydd newydd i Sue Gray, oedd wedi cyhoeddi dros y penwythnos ei bod hi’n gadael ei swydd yn Bennaeth Staff Syr Keir Starmer.
Roedd hi wedi bod dan y lach yn ddiweddar ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi’n derbyn mwy o gyflog na Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, dywedodd ei bod hi mewn perygl o “dynnu sylw” oddi ar y pethau pwysig sydd gan y Llywodraeth i’w gwneud.
Roedd hi hefyd yng nghanol ffrae am roddion i Starmer a Llafur gan yr Arglwydd Waheed Alli, ar ôl sicrhau y gallai’r Arglwydd Alli dderbyn pàs i fynd i Downing Street ac i fannau lle nad yw pobol tu allan i’r Llywodraeth yn cael mynd fel arfer.
Daeth Sue Gray i amlygrwydd fel arweinydd yr ymchwiliad ‘Partygate’ i bartïon gafodd eu cynnal yn Downing Street yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clo Covid-19.
Swydd newydd
Ond yn fuan ar ôl iddi adael ei swydd ddiweddaraf, daeth cyhoeddiad ei bod hi bellach wedi’i phenodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gennad ar gyfer “y cenhedloedd a’r rhanbarthau”.
Morgan McSweeney yw Pennaeth Staff newydd Syr Keir Starmer, ar ôl bod yn brif ymgynghorydd iddo ac arwain ymgyrch etholiadol Llafur.
Dywed Syr Keir Starmer ei fod e wrth ei fodd y bydd Sue Gray yn camu i’r swydd newydd.
Wrth ymateb, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod Sue Gray “wedi’i thaflu allan i’r ‘Cenhedloedd a’r Rhanbarthau”.
“Mae’r ffaith fod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu hystyried yn domen sbwriel i aelodau staff Llafur sydd wedi’u gwthio i’r cyrion yn adrodd cyfrolau am y llywodraeth Llundain-ganolog hon,” meddai.