Mae’r llun hwn wedi’i anfon at golwg360 gan Tracy Jones o Abertawe.

Mae hi’n un o’r rhai sydd wedi bod draw i weld yr aderyn copog (hoopoe), sydd fel arfer i’w weld yn Affrica neu yn ne Ewrop.

Daw’r enw Saesneg o’r sŵn maen nhw’n ei wneud wrth alw cymar.

Mae eu cyrff yn binc a brown, a’u hadenydd yn ddu a gwyn.

Dydyn nhw ddim yn bridio yng ngwledydd Prydain chwaith, ond maen nhw i’w gweld yn ne Lloegr o bryd i’w gilydd pan fyddan nhw’n mynd oddi ar eu trywydd arferol.

Mae’r aderyn lliwgar yn enwog am ei goron, ac mae’n ei chodi hi pan fydd yn cyffroi.

Israel

Y copog yw aderyn cenedlaethol Israel ers 2008, pan gafodd ei fabwysiadu i ddathlu pen-blwydd y wlad yn 60 oed.

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd Tracy Jones, sy’n ymgyrchydd gwleidyddol, gyda chriw o bobol ar lan y môr yn Abertawe i ddathlu Rosh Hashanah, y Flwyddyn Newydd Iddewig, pan welodd hi’r aderyn.

Roedden nhw’n taflu bara i’r dŵr yn ystod seremoni i nodi’r achlysur pan ddaeth yr aderyn i’r golwg.