Mae angen cydnabod gwladwriaeth Palesteina er mwyn sicrhau “heddwch a sefydlogrwydd fydd yn para”, yn ôl Ben Lake.
Daeth sylwadau llefarydd materion tramor Plaid Cymru wrth iddo bwyso ar Syr Keir Starmer, Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, i weithredu er mwyn sicrhau sefydlogrwydd gwleidyddol yn y Dwyrain Canol.
Daeth yr alwad flwyddyn union ers ymosodiadau gan Hamas ar Israel, ac fe gyfeiriodd Aelod Seneddol Ceredigion Preseli at sylwadau Starmer a David Lammy, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, gerbron y Cenhedloedd Unedig.
Wrth gyfeirio at Rwsia, dywedodd Starmer fod “rhaid i ni sefyll i fyny dros gyfraith ryngwladol”, ac y byddai peidio gwarchod Wcráin yn anfon neges at Rwsia y gall “y rhai sy’n bygwth wneud fel y mynnon nhw”.
Dywedodd Lammy wrth y Cyngor Diogelwch fod rhaid i heddwch yn Wcráin “barchu’r egwyddorion craidd sy’n tanlinellu’r Cenhedloedd Unedig”, sef “sofraniaeth ac uniondeb tiriogaethol”.
Safbwynt Plaid Cymru
Fe fu Plaid Cymru’n galw am gysondeb wrth gymhwyso cyfraith ryngwladol, ac i Israel gael eu dwyn i gyfrif am dorri’r gyfraith honno.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Deyrnas Unedig atal eu pleidlais ar ddatrysiad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i Farn Ymgynghorol y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol ar bresenoldeb Istael yn nhiriogaethau Palesteinaidd.
Roedd y datrysiad yn gofyn bod Israel yn rhoi’r gorau i’w “presenoldeb anghyfreithlon” yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza o fewn blwyddyn.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd Ben Lake i Syr Keir Starmer, yn wyneb ei sylwadau am gyfraith ryngwladol, pa ystyriaeth sy’n cael ei rhoi gan ei lywodraeth i gydnabod gwladwriaeth Palesteina yn ffurfiol.
Ymateb Syr Keir Starmer
“Mae cydnabyddiaeth yn fater o ‘pryd’, ac nid ‘os’,” meddai Syr Keir Starmer wrth ateb cwestiwn Ben Lake.
Ychwanegodd y byddai’r gydnabyddiaeth yn dod “ar yr adeg y byddai’n cael yr effaith fwyaf”.
“Mae angen datrysiad dwy wladwriaeth arnom,” meddai.
“Mae angen i ni weithio gyda’n cynghreiriaid i’r perwyl hwnnw.
“Byddwn ni’n parhau i wneud hynny, oherwydd fydd y gwrthdaro hwn ddim yn lleihau hyd nes bod llwybr gwleidyddol drwyddo fe.”