Mae tua 2,000 o bobol y mis sydd â chyflyrau iechyd meddwl cymhedrol a difrifol yn aros dros chwe mis i dderbyn therapi yng Nghymru, yn ôl data newydd.
Mae ceisiadau drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Mind Cymru yn dangos y bu’n rhaid i fwy na 3,000 o bobol aros chwe mis neu fwy mewn rhai misoedd rhwng 2020 a 2024.
Ar ben y 2,000 o bobol y mis, mae dros 750 yn rhagor yn gorfod aros am flwyddyn neu fwy i gael therapïau seicolegol arbenigol.
Mae’r ystadegau gafodd eu casglu gan bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru’n dangos bod 7,500 o bobol bob mis ar restrau aros ar gyfer therapïau siarad.
Ar adegau penodol, mae dros 1,300 o bobol wedi bod yn aros dros flwyddyn.
Bydd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei gynnal ddydd Iau (Hydref 10), ac yn ddiweddar mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros cleifion.
‘Achosi mwy o drawma’
Dechreuodd Kayleigh Francis, sy’n 27 oed ac yn dod o Abertawe, therapi Dadsensiteiddio Symudiad Llygaid (EMDR) ar y Gwasanaeth Iechyd eleni, ar ôl cael diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (borderline personality disorder) yn 19 oed.
Mae hi bellach yn ôl ar restr aros arall ar ôl cael ei chyfeirio am therapi rheoli emosiynau, a does ganddi ddim syniad faint o amser y gallai ei gymryd i gael ei gweld.
“Does dim byd yn gwella yn ystod y cyfnod hwnnw [pan ydych chi’n aros]; y cyfan y gallwch chi wneud yw ceisio rheoli pethau cyn iddyn nhw waethygu eto,” meddai.
“Cefais i ddiagnosis BPD am y tro cyntaf yn 19 oed, ac roeddwn i’n aros i weld rhywun, ond doedd dim byd yn digwydd, dim llythyr – dim byd.
“Yna, es i’r brifysgol a mynd yn sâl eto, a chael fy rhoi yn ôl ar y rhestr aros.
“Ar ddechrau 2024, llwyddais i ddechrau therapi EDR drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond erbyn hynny roedd fy mywyd wedi newid ac roeddwn i wedi dioddef llawer o bethau eraill, gan gynnwys colli pobol roeddwn i’n eu caru.
“Roeddwn i’n ceisio dygymod â chymaint o alar a llawer o deimladau eraill, gan olygu bod y math o therapi roeddwn i’n ei gael yn rhy drawmatig.
“Dywedon nhw wrtha i wedyn y byddai therapi rheoli emosiynau’n well opsiwn, ond does gen i ddim syniad nawr faint o amser mae hynny’n mynd i’w gymryd chwaith.
“Pan fyddwch chi’n estyn allan am y tro cyntaf, dyna pryd mae angen y cymorth arnoch chi. Pwy a ŵyr beth sy’n gallu digwydd yn y cyfamser wedyn?
“Mae’r aros yn achosi mwy o drawma i bobol, mwy o chwalfa i bobol, mwy o bobol yn ceisio lladd eu hunain – mwy o bobol yn hunan-niweidio cyn bod rhywun yn eu gweld.
“Dw i wedi bod yn y sefyllfa honno sawl gwaith.”
‘Galw cynyddol’
Dyma’r eildro i Mind Cymru ofyn am y data hwn gan fyrddau iechyd, wedi iddyn nhw ofyn amdano am y tro cyntaf yn 2020.
Ychydig iawn o newid, os o gwbl, fu mewn amseroedd aros ar gyfer oedolion ers cyn y pandemig Covid-19, medd yr elusen.
Mae’r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos bod amrywiadau mawr o hyd ar draws y byrddau iechyd.
Ychwanega’r elusen fod diffyg tryloywder ynghylch sut y caiff data ei gasglu a’i rannu’n golygu nad yw hi’n bosib gwybod faint o union o bobol sydd ar restrau aros.
“Mae pobol ar y rhestrau aros hyn yn byw gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus,” meddai Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru.
“Ni ddylai neb fod yn aros mwy na blwyddyn am therapïau seicolegol arbenigol.
“Yn 2015, cafodd £2m ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at therapïau seicolegol fel rhan o’u strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
“Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym ddim nes at wybod a yw’r strategaeth honno’n gweithio ai peidio.
“Pan fydd oedolion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y driniaeth, mae ansawdd y driniaeth yn dda, ac mae profiadau Kayleigh yn dyst i hyn, ond yr hyn sy’n glir hefyd yw bod galw cynyddol am gymorth ac mae’r system iechyd meddwl yn ei chael yn anodd ateb yr angen hwnnw.”
Mae Sue O’Leary yn poeni y bydd “gwaith da” yn mynd yn wastraff os nad ydy’r byrddau iechyd yn gallu darparu’r darlun cywir gyda’u hystadegau, tra bo Llywodraeth Cymru’n llunio Strategaeth Iechyd Meddwl Ddrafft newydd.
“Rydym yn croesawu’r ymrwymiad diweddar gan y Prif Weinidog newydd i fynd i’r afael ag amseroedd aros, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ond mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau mynediad amserol at gymorth,” meddai Sue O’Leary wedyn.
“Gyda hyn mewn golwg, mae Mind Cymru yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn therapïau seicolegol arbenigol, trefniadau llywodraethu cadarnach o ran sut mae Byrddau Iechyd Lleol yn casglu ac yn cyflwyno data am amseroedd aros, a bod y cyhoedd yn cael eu hysbysu am y ffigurau hynny.”
‘Angen mwy o waith’
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydnabod fod angen mwy o waith i wella profiadau a rhestrau aros.
“Mae’r Rhaglen strategol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi penodi rôl arweinydd clinigol cenedlaethol i gefnogi hyn ac i helpu i wella’r sefyllfa,” meddai llefarydd ar eu rhan.
“Canfu adolygiad Cymru gyfan o amseroedd aros am therapi seicolegol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod amrywiaeth o ddulliau ar waith ledled Cymru i gefnogi cleifion sy’n aros am therapïau seicolegol.”