Mae’r penderfyniad i gau uned mân anafiadau mewn ysbyty yn Llanelli dros nos am chwe mis “yn ofnadwy”, medd ymgyrchwyr.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddweud y bydd Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip ond ar agor am ddeuddeg awr yn ystod y dydd o Dachwedd 1 ymlaen “oherwydd materion diogelwch”.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, mae anallu cyson i ddod o hyd i feddygon â chymwysterau addas ar gyfer y gwasanaethau, yn enwedig fis nos a dros nos.

Daw’r addasiadau dros dro yn sgil pryderon am ddiogelwch cleifion gafodd eu codi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a staff sy’n gweithio ar yr uned.

‘Ofnadwy’

Fodd bynnag, yn ôl Deryk Cundy o grŵp ymgyrchu SOSPPAN (Save Our Services Prince Philip Action Network), does dim angen cau’r uned am chwe mis wrth ailstrwythuro.

Mae e wedi bod yn ymgyrchu y tu allan i’r ysbyty yn erbyn y cynlluniau i’w gau.

“Mae 75,000 o bobol yn byw yn y dalgylch, ac mae’r Bwrdd Rheoli’n cau’r Uned Mân Anafiadau oherwydd eu bod nhw’n dweud nad yw’n ddiogel,” meddai wrth golwg360.

“Ond dan eu rheolaeth nhw, mae’r lle wedi dod yn anniogel.

“Dydyn nhw ddim yn gorfod cynnal ymgynghoriad na dim; maen nhw’n cael ei gau e’n syth oherwydd maen nhw eu hunain yn dweud fod e’n anniogel, a dyw hynny ddim yn helpu llawer.

“Mae e’n golygu y bydd rhaid i bobol deithio deunaw milltir i Gaerfyrddin os ydyn nhw’n teimlo’n sâl.

“Mae e’n ofnadwy, yn ein barn ni, ac rydyn ni’n meddwl y bydd pobol yn marw o’i herwydd.”

Ers i ymgyrch SOSPPAN i achub yr Uned Mân Anafiadau lansio wythnos yn ôl, maen nhw wedi derbyn 7,000 o lofnodion, meddai Deryk Cundy.

“Dw i yn meddwl bod angen ailstrwythuro – dw i ddim yn dweud nad oes angen hynny – ond ddylen nhw ddim mynd â’r gwasanaeth oddi yma’n gyfan gwbl, hyd yn oed am chwe mis. Mae’n lot o amser.

“Yn yr amser hwnnw, fydd tua 3,000 o bobol heb eu gweld yma ac wedi gorfod teithio i rywle arall.

“Rydych chi’n cael tua 6,000 o bobol y flwyddyn yn mynd i’r Uned Mân Anafiadau yn ystod y nos.

“Os ydyn nhw’n mynd i [Ysbyty] Glangwili beth bynnag, maen nhw’n mynd i lethu fan yno.

“Maen nhw’n cael eu llethu â phobol yn barod.”

‘Rhaid bod yn ymarferol’ 

Mae nifer o wleidyddion lleol wedi lleisio’u pryderon hefyd, gan gynnwys yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli.

Mae Lee Waters wedi gofyn i Eluned Morgan, y Prif Weinidog, ymyrryd yn y penderfyniad.

Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog fod y Bwrdd Iechyd wedi methu recriwtio meddygon cymwys i gefnogi’r uned, gan ddweud ei bod hi’n “deall y rhwystredigaeth”.

Er mwyn ceisio cadw’r uned ar agor, roedd yr uned mân anafiadau’n cael ei arwain gan nyrsys dros nos, ond daeth i’r amlwg nad oedd hynny’n gweithio.

Yn ôl Eluned Morgan, roedd 32% o’r rhai oedd yn mynd i’r uned dros nos yn bobol oedd â chyflyrau difrifol ddylai ddim bod mewn uned mân anafiadau yn y lle cyntaf.

“Mae’r straen o bobol yn troi fyny gyda phroblemau difrifol yn achosi nifer sylweddol o absenoldebau,” meddai yn y Senedd.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn ymarferol a realistig am y sefyllfa.”

‘Sicrhau diogelwch’

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Jon Morris, Arweinydd Clinigol Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip, fod angen gallu darparu gwasanaeth sy’n addas i’r diben yn ystod yr holl oriau, “er mwyn sicrhau diogelwch a hyder pobol” sy’n mynd yno.

“Mae’r anallu i gyflenwi’r rota yn gyson, gyda meddygon â chymwysterau addas, yn enwedig gyda’r nos a thros nos, yn peri risg i’n cleifion a’n staff, gydag absenoldebau staff wedyn yn gwaethygu’r broblem,” meddai.

“Fe wnaethon ni ystyried a allen ni symud i fodel brys dan arweiniad nyrs dros nos, ond rydym wedi canfod fod rhai cyflwyniadau yn yr uned yn fwy difrifol eu natur nag y gellir delio â nhw mewn uned o’r math hwn, felly fe wnaethon ni ddiystyru’r opsiwn hwn yn y tymor byr.

“Tra bod y newid dros dro hwn ar waith, mae’n bwysig pwysleisio bod Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal meddygol acíwt i’r boblogaeth leol.

“Mae’r Uned Asesu Meddygol Acíwt yn darparu ymchwiliadau a thriniaethau cyflym i gleifion sâl, fel y rhai sydd â’r potensial i gael strôc neu sydd â chlefydau cronig, neu heintiau.

“Mae’r achosion hyn fel arfer yn dod i mewn i’r uned drwy ambiwlans neu drwy atgyfeiriad gan Feddyg Teulu.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda meddygon teulu ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau bod y cleifion hyn yn parhau i gael eu gweld yn Ysbyty Tywysog Philip, fel eu hysbyty agosaf, yn ystod y newid dros dro hwn i’r Uned Mân Anafiadau.”