Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi canmol gwaith ac ymroddiad staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wrth iddyn nhw baratoi i ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 75 oed.

Bydd y gweinidog yn cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir yr wythnos hon, gan arddangos y gorau o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ac edrych yn ôl ar bopeth mae wedi’i gyflawni ers cael ei sefydlu gan y Cymro Aneurin Bevan yn 1948.

Ymhlith y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mae Gwasanaeth Diolchgarwch aml-ffydd yn Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái yng Nghaerdydd i gydnabod y cyfoeth o dalent ac amrywiaeth yng ngweithlu’r gwasanaeth yng Nghymru.

Bydd medal Croes y Brenin Siôr, gafodd ei roi i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth y llynedd, yn cael ei harddangos yn y gwasanaeth.

Llwyddiant

“Mae’r ffaith ein bod ni nawr yn byw yn hirach yn brawf o lwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Eluned Morgan.

“Rwy’n sicr, pe bai Aneurin Bevan yma heddiw, y byddai’n falch o’r gwasanaeth a sefydlodd yma yng Nghymru, a sut mae wedi datblygu dros y 75 mlynedd diwethaf.

“Mae ein hanghenion iechyd, meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau wedi newid llawer ers 1948, ond dyw un peth heb newid: ymroddiad y staff, a dyma oedd y sylfaen y sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol arni.

“Mae’r bobol hyn yn ganolog i’r sefydliad annwyl hwn, ac mae pandemig Covid-19 wedi dangos inni pa mor wirioneddol arbennig ydyn nhw.

“Felly ar yr achlysur arbennig hwn, hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw am eu sgiliau, eu hymroddiad, eu dewrder a’u tosturi – nid yn ystod y pandemig yn unig, ond bob dydd o’r flwyddyn.

“Heddiw, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu galw digynsail am ei wasanaethau. Ni allwn fforddio parhau fel yr ydym.

“Rwy’n credu’n gryf fod pob un ohonom yn fodlon ymladd i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal i fod y system gynaliadwy rydym ei hangen a’i heisiau ar gyfer y dyfodol, sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

“Bydd angen i bawb chwarae eu rhan i’n helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon fel y gall y bobol hynny sydd â’r angen mwyaf am ein gwasanaethau gael mynediad at yr hyn maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen, yn agos at eu cartref.”

Enwi trên

Cyn y gwasanaeth eglwys yn Nhrelái, bydd y Gweinidog Iechyd yn mynd i seremoni yng Ngorsaf Drenau Casnewydd, lle bydd trên GWR yn cael ei enwi’n swyddogol yn “Aneurin Bevan”, ac ar ôl y gwasanaeth bydd yn rhoi datganiad i nodi’r achlysur yn y Senedd.

Ddydd Mercher (Gorffennaf 5), bydd y Gweinidog yn mynd i Wasanaeth GIG 75 yn San Steffan, a dydd Iau bydd hi’n annerch Cynhadledd Comisiwn Bevan yng ngwesty’r Celtic Manor, yng Nghasnewydd gan edrych ar yr hyn y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’i gyflawni a sut y bydd yn edrych yn y dyfodol.

Ddydd Sadwrn (Gorffennaf 8), bydd pob digwyddiad Park Run sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn dathlu GIG 75.

Bydd Byrddau Iechyd hefyd yn cynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i ddathlu GIG 75 a gall pobol ddarganfod beth sy’n digwydd yn eu hardal leol drwy edrych ar wefan eu bwrdd iechyd ac ar y cyfryngau cymdeithasol.