Bydd dau swyddog Llywodraeth Cymru yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 3).
Fe fydd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, a Dr Andrew Goodall, a oedd yn brif weithredwr GIG Cymru, yn ymddangos gerbon yr ymchwiliad sy’n cael ei gadeirio gan y Farwnes Hallett.
Fe fyddan nhw’n cael eu holi am barodrwydd Cymru ar gyfer y pandemig, o ran faint o gynllunio ac adnoddau oedd ar waith cyn 2020.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford a’r gweinidog iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, hefyd ymddangos gerbron yr ymchwiliad ddydd Mawrth (Gorffennaf 4).
‘Unedig mewn poen’
Mae hi’n “ddiwrnod pwysig” i’r grŵp Teuluoedd er Cyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru, medden nhw mewn neges ar Twitter.
“Darganfyddwch am 2pm heddiw pam nad oedd Frank Atherton @CMOCymru wedi paratoi Cymru ar gyfer pandemig.
“Dim hyd yn oed ffliw.
“Pam, er gwaethaf 20 mlynedd o argymhellion ar reoli heintiau ar gyfer firws anadlol sy’n cael ei drosglwyddo yn yr aer, doedd dim wedi newid.
“Arweiniodd hyn at fethiant trychinebus i amddiffyn ein hanwyliaid mewn ysbytai a chartrefi gofal yng Nghymru pan darodd Covid yn 2020.
“Rydym yn gobeithio heddiw y bydd ein hymdrechion di-baid yn sicrhau y bydd craffu ar barodrwydd Cymru.”
Ychwanegodd y grŵp: “Er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael ei harchwilio’n llawn, rydym wedi ymchwilio i bob agwedd ar barodrwydd y pandemig o gymhlethdodau strwythurau Llywodraeth Cymru i firoleg a phrosesau cyfreithiol.
“Rydym yn unedig yn ein poen, ac wedi tyfu i fod yn rym pwerus,” meddai’r grŵp gan ychwanegu eu bod eisiau canfod y “gwirionedd” a chael “cyfiawnder yng Nghymru.”
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Matt Hancock, cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU wrth yr ymchwiliad bod “camgymeriadau mawr” wedi bod yn y cynllunio ar gyfer pandemig yn y DU, tra bod Prif Weinidog yr Alban wedi cyfaddef nad oedd gan yr Alban gynllun ar gyfer pandemig ar wahan i’r ffliw.
Mae’r grŵp yn credu bod hyn yn cynnig syniad o ba fath o gwestiynau gall Mark Drakeford a Vaughan Gething ddisgwyl eu hateb ddydd Mawrth am barodrwydd Cymru – neu’r “amharodrwydd fel mae’n cael ei alw bellach.”
Ond mae ganddyn nhw bob ffydd y bydd Barwnes Hallett yn canfod y gwir.
“Mae’r Farwnes Hallett wedi dangos o’r dechrau ei bod yn deall yn iawn fod penderfyniadau a wnaed ar ein rhan ni yng Nghymru wedi cael canlyniadau personol iawn i bob un ohonom.
“Byddwn yn craffu’n fanwl ar eu geiriau i weld sut mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn cymharu â’n profiadau unigol ac ar y cyd.”