Mae’r ymchwiliad i achos tân yn Abertawe, lle bu farw bachgen tair oed, yn parhau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal West Cross tua 1.20 brynhawn Sadwrn, 1 Gorffennaf.

Bu farw bachgen tair oed yn y tân ac mae dyn 51 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys.

Cafodd merch 13 oed a dynes 39 oed driniaeth am effeithiau anadlu mwg.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price o Heddlu De Cymru bod eu hymchwiliad yn parhau i achos y tân, gan ychwanegu bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r plentyn.

Roedd y tân wedi ei gyfyngu i un tŷ ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr heddlu a’r gwasanaeth tân.