Mae Catrin Wager wedi cyflwyno ei henw ar gyfer bod yn ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Fangor Aberconwy.
Gyda ffiniau etholiadol yn newid bydd etholaeth Arfon yn diflannu a rhan ohoni’n dod yn etholaeth newydd Bangor Aberconwy.
Cafodd Catrin Wager ei henwebu i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru Arfon eleni, ac oherwydd bod y ffiniau etholiadol yn newid mae hi wedi gorfod cyflwyno ei henw.
‘Llai o leisiau yn cynrychioli Cymru yn San Steffan’
Oherwydd y newid i’r ffiniau etholaethol, mae Cymru yn mynd i golli wyth Aelod Seneddol, meddai.
“Gyda llai o leisiau yn cynrychioli Cymru yn San Steffan, mae’r angen am leisiau egwyddorol, cadarn a phrofiadol, fydd yn ymladd dros Gymru a’i phobol, yn gryfach nag erioed,” meddai Catrin Wager.
“Mae ein cymdeithas yn gwegian ar ôl 13 mlynedd o benderfyniadau gwleidyddol sydd yn blaenoriaethu’r breintiedig dros y bregus, sydd wedi dinistrio ein heconomi a’n amgylchedd, ac mae’r llywodraeth wedi colli bob hygrededd hefo’u celwydd a diffyg atebolrwydd.
“Ers i mi dderbyn y fraint o enwebiad Plaid Cymru Arfon, dw i wedi cael y cyfle i weithredu dros bobol unwaith eto, rhywbeth yr oeddwn wir yn ei golli ar ôl camu nôl o’r Cyngor Sir.
“O frwydro am wasanaethau bws, i helpu unigolion hefo problemau tai, neu geisio cael gwell adnoddau i bobl hefo anableddau, mae wedi bod yn gyfnod prysur, ond dwi wir wedi mwynhau ceisio creu newid.
“Tydi rhywun ddim yn gallu newid y byd dros nos, ond ‘da ni yn gallu gwella pethau; gam wrth gam, un weithred neu broblem ar y tro, drwy drafod, gwrando a gweithredu.
“Dyna be dw i wir yn caru ei wneud, a dydw i ddim eisiau rhoi’r gorau iddi – yn enwedig pan mae ’na gymaint i’w wneud,” meddai Catrin Wager, wrth esbonio pam ei bod wedi cyflwyno ei henw i sefyll dros yr etholaeth newydd, Bangor Aberconwy.
‘Etholaeth newydd yn ddaearyddol anferth!’
Bydd yr etholaeth newydd yn wahanol i’r etholaeth bresennol gan y bydd yn llawer mwy.
“Roedd Arfon ymhlith etholaethau lleiaf Prydain, ac i’r gwrthwyneb yn llwyr, mi fydd etholaeth newydd Bangor Aberconwy yn ddaearyddol anferth!” meddai.
“Mae hi’n ymestyn o Fangor a Dyffryn Ogwen ar draws i Landudno ac i lawr at ffiniau Dinbych, Rhuthun a Corwen.
“Mae’n ardal eang, ac mae yna gymunedau tra gwahanol eu naws o fewn ei ffiniau.
“Rhaid hefyd cofio y bydd yr etholaeth newydd yn pontio tair sir.
“Daw’r amrywiaeth yma a heriau i unrhyw wleidydd wrth gwrs, ond rwy’n credu fod fy mhrofiad gwleidyddol a fy nghefndir fel cyn-aelod cabinet yng Ngwynedd yn mynd i fod o help mawr mewn trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol.
“Un peth rwy’n sicr fydd yn gyson ar draws yr etholaeth ydy fod yna bobol sydd wedi dioddef oherwydd y llywodraeth bresennol, a bod ’na bobl sydd eisiau, a gwir angen gweld newid.
“Rwy’n meddwl fod pobol wir wedi cael digon o ddiffyg hygrededd a phenderfyniadau trychinebus a chreulon y Torïaid, ac mae’r Blaid Lafur wedi bod yn llwfr yn ymwrthod â’r penderfyniadau hyn.
“Mae’r ddwy brif blaid i weld mor frwd ar danseilio ei gilydd, eu bod wedi anghofio am bobol, ac mae trigolion Cymru yn isel iawn ar eu blaenoriaethau nhw.
“Yn wahanol i’r ddwy brif blaid, ym Mhlaid Cymru rydyn ni yno i gynrychioli pobol Cymru yn unig.
“Does gynnon ni ddim uchelgais i lywodraethu yn San Steffan, a’n nod yw llysgenhadu dros y bobol sydd wedi ein hethol.”