Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Y nod yw edrych ar fesurau gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn diogelu pobol fregus.
Daw hyn wrth i Blaid Cymru gynnal digwyddiad ‘Cymru a’r Argyfwng Costau Byw’ dan arweiniad ei llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AoS.
“Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn achosi caledi annerbyniol i ormod o deuluoedd ledled Cymru,” meddai Sioned Williams.
“A chredwn y gellir gwneud mwy i atal hyd yn oed mwy o deuluoedd Cymru rhag cael eu gwthio i dlodi a dioddef effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw.
“Yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mae hyn wedi’i waethygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – o’u toriadau i Gredyd Cynhwysol, i anwybyddu galwadau am dreth ar hap ar gwmnïau ynni – nid yw’n syndod bod cymaint o deuluoedd yn teimlo’n ddi-rym yn wyneb y storm economaidd hon.”
???????Mae cynllun 5 pwynt Plaid Cymru yn dangos sut y gallwn fynd i'r afael â'r Argyfwng Costau Byw yng Nghymru.
? Helpu talu'r biliau
❎Canslo ôl-ddyledion
? Gwrthdroi'r toriad credyd cynhwysol
? Cyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyflymach
?️Ymestyn Grant Caledi Tenantiaeth pic.twitter.com/LL2jZnlmPW— Plaid Cymru ??????? (@Plaid_Cymru) February 17, 2022
Fe ddywedodd Plaid Cymru ar Twitter:
“Mae cynllun 5 pwynt Plaid Cymru yn dangos sut y gallwn fynd i’r afael â’r Argyfwng Costau Byw yng Nghymru.
- Helpu talu’r biliau
- Canslo ôl-ddyledion
- Gwrthdroi’r toriad credyd cynhwysol
- Cyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyflymach
- Ymestyn Grant Caledi Tenantiaeth”
“Dim stop ar yr ymgyrchu”
Ychwanegodd Sioned Williams bod cynllun pum pwynt Plaid Cymru “yn dangos sut y gellir mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol yng Nghymru, i helpu pobl gyda chostau cynyddol, i gapio biliau lle bo’n bosibl, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i bobl gyda gwaith trwy gynyddu gofal plant i helpu i frwydro yn erbyn cyflogau sefydlog”.
“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraethau yng Nghymru a San Steffan i weithredu ar yr argyfwng costau byw.
“Nid ydym ar fin rhoi diwedd ar ein hymgyrchu, a dyna pam rwy’n cynnal digwyddiad a fydd yn dod â gwleidyddion, actifyddion, arbenigwyr a’r cyhoedd ynghyd fel y gallwn drafod sut i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn,” meddai.
“Yn y cyfamser, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am helpu’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf, rhaid iddyn nhw weld bod angen mwy o rym dros les a threth ar Gymru.”
Llywodraeth
Cymru
Yr wythnos
hon, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau pellach i helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw.
Mae’r pecyn yn cynnwys taliad costau byw o £150 i’w dalu cyn gynted â phosib, a £200 ychwanegol i aelwydydd incwm isel drwy’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf.
Ddechrau mis Chwefror fe gyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd taliadau o £350 i helpu aelwydydd yn Lloegr gyda biliau ynni o fis Ebrill 2022. Bydd tua £150 o’r gefnogaeth yn dod ar ffurf ad-daliad treth cyngor.
Cafodd hynny ei ddisgrifio’n “annigonol” gan Rebecca Evans, gan ychwanegu fod y pecyn cyllido yng Nghymru werth £330m yn “sylweddol uwch” na’r cymorth cyfatebol yn Lloegr.
Mae ymchwil newydd wedi dangos mai Cymru sydd â’r biliau ynni uchaf yn y Deyrnas Unedig, gydag aelwydydd yn gwario £800 y flwyddyn – £60 yn uwch na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.
Yn 2022-23, bydd dros £100m yn cael ei roi tuag at gryfhau cynlluniau eraill sy’n helpu pobol i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol.
Cyhoeddi pecyn o fesurau pellach i helpu gyda’r argyfwng costau byw
Cyhoeddi pecyn o fesurau pellach i helpu gyda’r argyfwng costau byw
Cyhoeddi pecyn o fesurau pellach i helpu gyda’r argyfwng costau byw
Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leddfu’r argyfwng costau byw
Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leddfu’r argyfwng costau byw
Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leddfu’r argyfwng costau byw