Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am “berygl i fywydau” pan fydd Storm Eunice yn taro Cymru fore dydd Gwener (18 Chwefror).

Daw hyn ar ôl i rybudd oren gael ei uwchraddio i goch ar gyfer deg sir fore dydd Iau (Chwefror 17).

Mae disgwyl y bydd gwyntoedd yn cyrraedd 100m.y.a, ac mae’r rhagolygon yn dangos y gallai’r storm dorri cyflenwadau trydan a difrodi cartrefi, yn ogystal â pheryglu bywydau.

Yn y cyfamser, mae pob gwasanaeth trên wedi’i ganslo ddydd Gwener oherwydd y storm.

Bydd holl ysgolion Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ynys Môn, Ceredigion, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Powys, Sir Ddinbych a Sir Benfro yn cau oherwydd y tywydd, gyda rhai disgyblion yn dysgu o bell.

Mae cynghorau Casnewydd a Bro Morgannwg wedi dweud y bydd rhai ysgolion yn cau yno hefyd.

Daeth cadarnhad y bydd y rhybudd coch mewn grym rhwng 7yb a 12yh ddydd Gwener ar gyfer Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Mae rhybudd oren yn parhau mewn grym ar gyfer holl siroedd eraill Cymru rhwng 5yb fore Gwener tan 9yh.

“Perygl i fywyd”

“Rydym yn gweithio gydag asiantaethau cenedlaethol, awdurdodau lleol a’r gwasanaethau brys i baratoi ar gyfer y storm Eunice,” meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

“Mae rhybudd coch wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhan helaeth o dde Cymru o 07.00 yfory, sy’n golygu bod perygl i fywyd.

“Rydym yn disgwyl i’r tywydd darfu ar drefniadau teithio – bydd pob trên yng Nghymru yn cael ei ganslo ddydd Gwener – felly meddyliwch yn ofalus cyn teithio.

“Teithiwch dim ond os oes raid i chi.

“Fe fynychais gyfarfod COBRA yn gynharach heddiw ac mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod y prynhawn yma i drafod y paratoadau ar gyfer y storm.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n gyson ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Cymru.

“Gwnewch baratoadau heddiw er mwyn i chi allu cadw eich hun ac anwyliaid yn ddiogel.”

“Paratoi am y gwaethaf”

Dywedodd llefarydd ar ran Coed Cymru wrth golwg360 mai’r broblem fwyaf fydd coed yn disgyn ar ochrau’r ffyrdd yn sgil y gwyntoedd cryfion.

“Ond hefyd, rydan ni’n mynd i weld lot o goed mewn coedlannau sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd yn chwythu drosodd,” meddai.

“Rhywbeth arall sy’n mynd i effeithio faint o goed sy’n disgyn ydi’r ash disease yma.

“Mae o’n dibynnu faint mae’r afiechyd wedi datblygu yn y goeden, maen nhw’n gallu mynd yn reit fregus.

“Be dw i wedi’i weld hyd yn oed heddiw ydi bod lot o’r canghennau yn torri i ffwrdd, a dydi o ddim wedi cymryd lot i wneud hynna.

“Ond diwedd y dydd, rydyn ni ond yn gallu paratoi am y gwaethaf.

“Mae o’n anodd dweud efo lot o goed, alli di edrych ar goeden heddiw sy’n edrych yn iach, ond dwyt ti ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen o dan yr arwyneb.

“Mi all gymryd dim ond un hit iawn gan y gwynt i’w ddymchwel.

“Dw i’n rhagweld y byddan ni’n clirio lot o goed sydd wedi disgyn oherwydd y storm.”

“Cymerwch gamau gofalus”

Dywedodd Ross Akers, Rheolwr Dyletswydd Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Gallai cyflymder y gwynt hefyd arwain at ddifrod mewn sawl ardal.

“Rydym yn annog gofal ac i bawb gadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.

“Os ydych chi’n byw yn agos at, neu’n ymweld ag ardal arfordirol, byddwch yn ofalus iawn a chadwch bellter diogel oddi wrth lwybrau arfordirol a phromenadau oherwydd gall tonnau mawr eich ysgubo oddi ar eich traed neu gallwch gael eich taro gan falurion.”