Bydd holl Aelodau’r Senedd yn cael dychwelyd i Fae Caerdydd er mwyn cyfarfod wyneb yn wyneb o 1 Fawrth os ydyn nhw’n dymuno.

Dyma’r tro cyntaf i’r holl aelodau gael eu gwahodd yn ôl i’r Senedd ers mis Mawrth 2020, ac mae’r Senedd wedi bod yn cyfarfod yn gwbl rithiol neu’n hybrid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ar hyn o bryd mae’r cyfarfodydd hybrid yn caniatáu i ychydig o aelodau i gwrdd yn y cnawd, gyda’r gweddill yn cyfrannu drwy alwad fideo, ond gallai rhai gwleidyddion barhau i weithio o bell ar ôl Dydd Gŵyl Dewi.

Fe rybuddiwyd Aelodau oedd yn cyfarfod wyneb yn wyneb i wisgo gorchudd yn y siambr, ynghyd â gwneud profion llif unffordd.

Bydd sesiynau rhithiol yn parhau tan gwyliau’r Pasg, o leiaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd: “O ddydd Mawrth, Mawrth y 1af bydd pob un o’r 60 Aelod yn cael cyfle i ddychwelyd i siambr y Senedd ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

“Bydd y model hybrid yn parhau yn ei le, sy’n rhoi’r opsiwn i aelodau gymryd rhan fwy neu lai os dymunant.”

Dywedodd y Senedd fod y cam wedi’i gymeradwyo gan y Llywydd Elin Jones, mewn ymgynghoriad ag uwch Aelodau o’r Senedd sydd ar bwyllgor busnes Senedd Cymru, wedi iddyn nhw gynnal asesiad risg.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am adalw’r holl aelodau i’r Senedd.

Fis diwethaf fe ddadleuodd Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd bod y fformat hybrid “yn caniatáu craffu mwy effeithiol ar weinidogion, nad ydyn nhw’n gallu dibynnu ar swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n darparu cymorth ac awgrymiadau oddi ar y sgrin, fel sy’n digwydd mewn rhith-bresenoldeb yn siambr y Senedd.”

Daeth sesiynau hybrid i ben yn Senedd San Steffan haf y llynedd.

Digwyddiadau cofiadwy

Mae’r sesiynau wedi hybrid wedi creu atgofion da a drwg ar lawr y siambr, gan gynnwys pan gafodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei ddal yn rhegi am ei gyd-Aelod Cynulliad, Jenny Rathbone, ar ôl iddo anghofio troi’r meicroffon ar ei gyfrifiadur i ffwrdd.

Cafwyd moment hanesyddol pan gynhaliodd Mark Drakeford sesiwn o Gwestiynau’r Prif Weinidog am y tro cyntaf y tu allan o Gymru drwy gyswllt fideo o Gynhadledd COP26 yng Nglasgow.

Atebodd Mark Drakeford gwestiynau gyda llwyfan Cynhadledd COP26 yn gefnlen iddo.

Bu’n rhaid i’r Llywydd ganiatáu seibiant am ychydig funudau ar ôl i’r Siambr golli cyswllt gyda’r Prif Weinidog.

Roedd clywed y Llywydd, Elin Jones yn canu ‘Hei Mistar Urdd’ ar ganmlwyddiant y mudiad yn foment gofiadwy, a rhybuddiodd y byddai hi wedi gofyn i’r holl Aelodau gyd-ganu â hi pe bai’r Senedd wedi cwrdd wyneb yn wyneb.

Fe gyhoeddodd Senedd Cymru fideo o’r digwyddiad ar Twitter:

“Agorodd @yLlywydd y Cyfarfod Llawn heddiw gyda neges arbennig i’r @Urdd, sy’n dathlu ei chanmlwyddiant.

“Penblwydd Hapus Mawr!”

Bydd Senedd Cymru cymryd gwyliau hanner tymor yr wythnos nesaf.

Darllen mwy

Galw am ddod â sesiynau rhithiol yn y Senedd i ben

Mae’r Ceidwadwyr am weld sesiynau hybrid yn dychwelyd ym Mae Caerdydd er mwyn caniatáu “craffu mwy effeithiol” ar weinidogion Llywodraeth Cymru

Democratiaeth ‘rithiol’ dan y lach

Iolo Jones

Roedd Aelodau’r Senedd yn ffraeo am bob dim dan haul ar ddechrau’r wythnos hon, gyda phethau’n cyrraedd eu hanterth adeg y cyfarfod llawn
Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd

Aelodau o’r Senedd yn dychwelyd i “Siambr hybrid” yng Nghaerdydd

Bydd traean o’r Aelodau yno’n gorfforol, tra bydd y gweddill yn ymuno dros Zoom
Wyneb Elin Jones

Symud i fodel Senedd ‘Hybrid’

Bydd rhai’n bresennol yn y Siambr ac eraill yn cyfrannu’n rhithiol o’u cartrefi

Gweinidog yn sôn am “frwdfrydedd” i ddod ag ASau yn ôl i’r siambr

Iolo Jones

Rebecca Evans yn trafod sesiynau rhithiol y Senedd, a’r posibilrwydd o sesiynau “hybrid”