Fe fydd “Senedd hybrid” yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8), wrth i draean o Aelodau’r Senedd ddychwelyd i Fae Caerdydd yn gorfforol am y tro cyntaf ers ymlediad y coronafeirws.

Tra bydd rhai aelodau’n bresennol yn y Siambr, bydd y gweddill yn ymuno trwy gyfrwng Zoom ar gyfrifiadur.

Dyma’r tro cyntaf i’r Senedd gyfarfod yn yr adeilad ers dechrau’r ymlediad ym mis Mawrth.

Sut fydd y system newydd yn gweithio?

Dim ond 20 o Aelodau fydd yn cael bod yn y Siambr yn gorfforol.

Bydd y 40 arall yn cysylltu trwy Zoom ar gyfrifiadur.

Bydd tri aelod o’r Cabinet ac wyth aelod o feinciau cefn Llafur yn y Siambr, ynghyd â phedwar aelod o’r Ceidwadwyr, tri o Blaid Cymru, un o Blaid Brexit ac un annibynnol.

Y sesiynau fydd yn cael eu cynnal fydd Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, Sesiwn Holi’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams a Sesiwn Holi’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Bydd modd i bob un o’r Aelodau bleidleisio lle bynnag y byddan nhw ar gyfer y cyfarfod.

‘Arloesi’

“Rydym wedi arloesi a chynnal holl elfennau craidd o waith y Senedd – boed yn gyfarfodydd llawn neu’n waith pwyllgorau drwy gyfarfodydd ar-lein, ac mae wedi bod yn hynod effeithiol hyd yma,” meddai’r Llywydd Elin Jones adeg cyhoeddi’r Senedd hybrid fis diwethaf.

“Erbyn hyn, rydym wedi profi ymarferoldeb y model hybrid ac yn teimlo ei bod yn amserol i ni symud at y model hwn. Bydd y Senedd hybrid yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol tra’n galluogi pob Aelod i gymryd rhan, boed yn rhithiol neu yn y Siambr.

“Mae rhoi pleidlais electroneg o bell i bob aelod hefyd yn gam pwysig i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hanffafrio pe na baent yn bresennol yn y Siambr.

“Dyma’r cam nesaf naturiol o ran sicrhau fod y Senedd yn gallu parhau i gynnal Busnes yn ddiogel ac effeithiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y model hybrid ar waith.”