Does gan Lywodraeth Prydain ddim cynlluniau “cadarn” o hyd i sicrhau bod gan ysbytai a chartrefi gofal y cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen arnyn nhw pe bai ail don o Covid-19, yn ôl aelodau seneddol yn San Steffan.
Dywed Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus trawsbleidiol Tŷ’r Cyffredin nad yw’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn trin y mater fel un brys.
Mae’r pwyllgor yn galw ar weinidogion i gyflwyno cynllun manwl o fewn dau fis, gan nodi sut maen nhw’n bwriadu sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal yn cael eu cyflenwi’n llawn yn y dyfodol.
Straen
Mae’r rhybudd diweddaraf yn dilyn adroddiadau eang o brinder PPE yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, gan roi staff a chleifion mewn perygl.
Mae Adran Iechyd San Steffan yn mynnu nad oedd erioed wedi rhedeg allan o stoc PPE yn genedlaethol, ond yn cydnabod fod yr argyfwng wedi gosod cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau dosbarthu dan “straen sy’n ddigynsail”.
“Rydym yn pryderu’n fawr am y prinder cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei nodi’n gyson gan y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal yn ystod pandemig Covid-19,” meddai’r pwyllgor.
“Er bod yr adran yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu stoc PPE i fodloni’r galw tymor hir, dydyn ni ddim yn argyhoeddedig eu bod yn trin y mater yn ddigon brys neu fod y broses gaffael yn ddigon cadarn.
“Mae’n gwbl hanfodol nad yw’r un problemau yn digwydd eto pe bai ail don.”
Digon ar gyfer y dyfodol
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain nad yw’n derbyn canfyddiadau’r pwyllgor.
“Rydym wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i gyflwyno PPE i’r rheng flaen drwy gydol y pandemig byd-eang hwn, gan weithio gyda’r diwydiant, y Gwasanaeth Iechyd a’r lluoedd arfog i greu rhwydwaith dosbarthu i gyflenwi dros 58,000 o leoliadau,” meddai.
“Mae dau biliwn o eitemau PPE wedi’u darparu bellach ac mae bron i 28 biliwn o eitemau wedi’u harchebu gan weithgynhyrchwyr yn y Deyrnas Unedig a phartneriaid rhyngwladol i ddarparu cyflenwad parhaus, a fydd yn diwallu anghenion staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.”