Mae awdurdodau Seland Newydd am gyhuddo dyn 32 oed oedd wedi dianc o gwarantîn er mwyn mynd i siopa mewn archfarchnad.
Llwyddodd e i ddianc am awr cyn dychwelyd i westy lle’r oedd e’n cael ei gadw.
Cafodd e brawf positif ar gyfer y coronafeirws yn ddiweddarach.
Yn ôl yr awdurdodau, mae’r dyn yn ddinesydd yn y wlad ac mae e newydd ddychwelyd o India.
Maen nhw’n dweud bod ei ymddygiad yn “gwbl annerbyniol”.
Mae Seland Newydd wedi llwyddo i ddileu’r feirws yn llwyr unwaith, ac maen nhw am sicrhau bod unrhyw un sy’n teithio i’r wlad o dramor yn mynd i gwarantîn 14 diwrnod ar ôl dychwelyd.
Gallai’r dyn gael dirwy neu gyfnod o chwe mis o garchar pe bai llys yn ei gael e’n euog o drosedd.
Ond dywed yr awdurdodau fod camerâu cylch-cyfyng yn dangos na ddaeth y dyn i gysylltiad agos ag unrhyw un arall yn yr archfarchnad, sydd bellach ynghau i’w glanhau’n drylwyr.