Bydd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn cyhoeddi cynllun gwerth £2bn yn ei Ddatganiad heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8), gyda’r nod o leddfu diweithdra ymysg pobol ifanc drwy roi cymhorthdal i leoliadau gwaith.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi’r cynllun pan fydd yn nodi ei becyn adfer yn sgil y coronafeirws.

Bwriad y cynllun i hybu’r economi fregus yw helpu i greu swyddi, gan gynnwys cynllun i helpu i dalu am leoliadau chwe mis i bobol o dan 25 oed sy’n wynebu diweithdra hirdymor.

Bydd Rishi Sunak yn nodi’r mesurau yn ei ddiweddariad economaidd yn Nhŷ’r Cyffredin, wrth iddo wynebu pwysau i gynorthwyo’r rhai mwyaf bregus i effeithiau’r argyfwng ariannol.

Cynllun

Yn y cyfamser, bydd Llafur yn gwthio Rishi Sunak i ddatblygu cynllun ffyrlo “hyblyg” mewn ardaloedd lle mae clo lleol yn ei le.

Mae’r Trysorlys yn cydnabod fod pobol ifanc yn fwy tebygol o fod wedi cael eu rhoi ar gennad o dan y cynllun cadw swyddi sy’n dirwyn i ben ym mis Hydref.

Felly mae cynllun “Kickstart”, y mae’r Trysorlys yn gobeithio y bydd yn creu cannoedd o filoedd o swyddi, yn cael ei gyflwyno ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n hawlio credyd cynhwysol ac sydd mewn perygl o fethu â chael swydd hirdymor.

Byddai cyllid gan y Llywodraeth yn talu 100% o’r isafswm cyflog am 25 awr yr wythnos yn y cynllun a fydd ar agor i bob cyflogwr ledled gwledydd Prydain, gyda’r penaethiaid yn gallu ychwanegu at eu cyflogau.

“Pobol ifanc sy’n dioddef fwyaf o argyfyngau economaidd,” meddai Rishi Sunak cyn y cyhoeddiad.

“Ond maen nhw’n wynebu risg arbennig y tro hwn gan eu bod yn gweithio yn y sectorau sy’n cael eu taro’n anghymesur gan y pandemig.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod fod diweithdra ymysg pobol ifanc yn cael effaith hirdymor ar swyddi a chyflogau a dydyn ni ddim eisiau gweld hynny’n digwydd i’r genhedlaeth hon.

“Felly mae gennym gynllun beiddgar i ddiogelu, cefnogi a chreu swyddi.”

“Rhy ychydig, yn rhy hwyr”

Dywed Anneliese Dodds, canghellor yr wrthblaid, fod y Llywodraeth “eto i godi i raddfa’r argyfwng diweithdra” ac y dylid rhoi’r flaenoriaeth i roi’r gorau i’w hagwedd “un ffordd yn addas i bawb” tuag at roi terfyn ar y cynlluniau cadw swyddi a hunangyflogaeth.

“Hefyd, bydd angen cymorth wedi’i deilwra ar bobol hŷn sy’n mynd yn ddi-waith, a phobol sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r effaith yn arbennig o galed,” meddai.

Dywed Layla Moran, y Democrat Rhyddfrydol, y bydd y pecyn “yn anffodus yn rhy ychydig yn rhy hwyr i lawer.”

“Gallai plant deunaw oed gael eu talu dim ond £161 yr wythnos o dan y cynllun hwn, a fyddai prin yn talu am gostau rhent a chludiant mewn rhai rhannau o’r wlad,” meddai wedyn.