Mae Gweinidogion Cyllid y llywodraethau datganoledig yn annog Llywodraeth San Steffan i lacio’r cyfyngiadau ariannol sydd wedi’u gosod arnyn nhw, er mwyn gallu ymateb yn well i argyfwng y coronafeirws.

Daw hyn wrth i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, baratoi i gyhoeddi ei Ddatganiad Haf heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8).

Mae Rebecca Evans, Kate Forbes a Conor Murphy yn galw am sicrwydd y byddan nhw’n cael rhyddid i droi cyllid cyfalaf yn arian o ddydd i ddydd.

Maen nhw hefyd am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi diwedd ar y cyfyngiadau benthyg mympwyol.

‘Amharu ar ein hymateb’

“Mae’r rheolau sydd wedi’u gosod gan y DU yn amharu ar ein hymateb i argyfwng COVID-19 ac yn cyfyngu ar ein gallu i sicrhau bod mwy o adnoddau yn mynd i’r rheng flaen,” meddai Rebecca Evans.

“Does dim rheswm clir dros y rheolau hyn, sy’n tanseilio rheolaeth gyllidebol dda yng Nghymru.

“Mae’r argyfwng yn golygu bod hwn yn fater brys. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU weithredu a darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i ymateb a buddsoddi yn adferiad Cymru”.

‘Pwerau cymharol gyfyngedig’

“Bydd y pwerau rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw yn galluogi Llywodraeth yr Alban i ymateb i COVID-19 yn fwy effeithiol ac ailgychwyn ein heconomi,” meddai Kate Forbes ar ran Llywodraeth yr Alban.

“Pwerau cymharol gyfyngedig ydyn nhw ond byddent yn lleddfu rhywfaint o’r pwysau aruthrol ar ein cyllideb ac yn rhoi mwy o adnoddau inni danio ein hadferiad.

“Rwyf felly’n galw ar y Canghellor i lacio’r rheolau cyllidol caeth hyn, a rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â’r heriau anferthol sy’n wynebu ein heconomi”.

Ac mae Conor Murphy, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, wedi ategu hyn.

“Mae’n hanfodol bod gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yr adnoddau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r heriau sy’n codi yn sgil COVID-19,” meddai.

“Gall mwy o hyblygrwydd ariannol ein helpu i ddelio â’r heriau hyn a defnyddio ein cyllidebau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, diogelu pobl agored i niwed ac adfer yr economi”.