Mae 407 o weithwyr a chyn-weithwyr addysg wedi llofnodi llythyr agored at Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn galw am ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm.

Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno i’r Senedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 8), gan wneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm addysg.

Daw’r llythyr wedi i fudiadau megis Cymdeithas yr Iaith a’r Mudiad Meithrin fynegi pryderon.

Dywed y llythyr nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno “unrhyw dystiolaeth na chyfiawnhad addysgol” i gefnogi pasio’r bil.

Ac fe aiff yn ei flaen i honni nad oes “yr un arbenigwr na rhanddeiliad [yn] argymell hyn yn ystod y gwaith ymgynghori”.

‘Niweidio addysg Gymraeg’

Nid ydym am weld Bil y Cwricwlwm yn troi’r cloc yn ôl ac achosi brwydro pellach dros addysg Gymraeg ar lefel ysgolion a chymunedau,” meddai’r llythyr.

“Nid eithriad i’r norm ydy addysg Gymraeg ond rhywbeth i’w dathlu, ei chofleidio a’i thyfu”.

Dywed Mabil Siriol, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, fod y “llythyr yma’n dangos bod yr arbenigwyr, y rhai sy’n gweithio ym maes addysg, yn gwybod y byddai gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r Cwricwlwm yn niweidio addysg Gymraeg ac yn rhwystro ei thwf ar draws y wlad”.

“Y Gymraeg sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg,” meddai wedyn.