Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi pryd y bydd modd i’r diwydiant lletygarwch agor ei ddrysau unwaith yn rhagor yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

Mae pryder ynghylch swyddi o fewn y diwydiant, gyda chynllun ffyrlo’r llywodraeth yn dirwyn i ben yn yr hydref.

Mae’r diwydiant wedi gallu agor ei ddrysau yn Lloegr yn dilyn llacio’r cyfyngiadau y tu draw i’r ffin.

Tra bod yr undeb yn croesawu’r trafodaethau sydd wedi bod rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru, maen nhw’n galw am sicrwydd drwy bwyso ar y llywodraeth i gyhoeddi dyddiad penodol.

“Mae TUC Cymru a’n hundebau cysylltiedig yn y diwydiant lletygarwch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dyddiad ar gyfer ailagor y sector lletygarwch dan do,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.

“Rydym yn croesawu’r trafodaethau â Llywodraeth Cymru heddiw ar ddatblygiad mesurau lliniarol, sy’n cynnwys asesiadau risg sy’n benodol ar gyfer COVID 19 ac arweiniad manwl sy’n hanfodol er mwyn gwarchod gweithwyr.

“Mae nifer o weithwyr yn bryderus am eu gobeithion o gael gwaith yn y dyfodol wrth i’r cynllun ffyrlo ddirwyn i ben a nifer cynyddol o gyflogwyr yn rhoi rhybuddion diswyddo.

“Mae gweithwyr a chyflogwyr o’r farn y gallai cynnig dyddiad ar gyfer ailagor lletygarwch dan do roi sicrwydd i’r sector ac atal rhagor o swyddi rhag cael eu colli.

“Mae undebau llafur yn credu, wrth osod dyddiad agor, byddai angen ystyried adolygiad ar gyfer agor tafarnau, bariau a chaffis awyr agored.

“Bydd angen hefyd i fusnesau gael amser i roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle.

“All yr un gweithiwr gael ei roi mewn perygl er mwyn i fusnesau oroesi.”

Perfformwyr

Yn y cyfamser, mae’r undeb hefyd yn gweithio tuag at sicrhau y gall perfformwyr ddychwelyd i’w gwaith yn y lleoliadau hyn – rhywbeth fydd yn digwydd yn hwyrach nag ailagor cychwynnol.

Dywed yr undeb eu bod nhw am dynnu ar brofiadau arfer dda gwledydd eraill wrth wneud hyn.

“Fel cam nesaf, byddem yn croesawu arweiniad cliriach ac amserlen er mwyn i’r celfyddydau perfformio gael dychwelyd,” meddai ymhellach.

“Rydym yn dal o’r farn fod PPE, y strategaeth brofi, olrhain a diogelu (gyda chefnogaeth arianol fel nad oes cosb ar gyfer hunanynysu), mynediad i undebau llafur, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, a rheoli a gorfodi’r rheol dwy fetr yn allweddol i lwyddiant ailagor, yn yr un modd ag y mae partneriaeth waith a chymdeithasol deg.”