Mae Gweinidog Busnes, Economi ac Isadeiledd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George wedi mynegi ei siom yn dilyn y cyhoeddiad am ddyfodol cynllun ffatri Ineos Automotive ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae pryder na fydd cwmni Ineos Automotive yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr i adeiladu ffatri newydd wedi’r cyfan – ac y gallen nhw droi eu sylw, yn hytrach, at safle newydd yn Ffrainc.

“Bydd hyn yn newyddion hynod siomedig i Ben-y-bont ar Ogwr a De Cymru, yn enwedig wythnos yn unig ar ôl i Grenadier gael ei ddadorchuddio,” meddai Russell George.

Roedd disgwyl i’r cerbyd pedair olwyn newydd, Grenadier, gael ei adeiladu yng Nghymru’r flwyddyn nesaf, gyda hyd at 200 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y lle cyntaf, a hyd at 500 yn y pen draw.

“Mae Covid, fel mae Ineos wedi datgan, wedi cael effaith negyddol ar y diwydiant,” meddai wedyn.

“Fodd bynnag, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud eto, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd Llywodraeth Cymru’n ei wneud i wthio’r achos ar ran y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr”.