Mae Jair Bolsonaro, arlywydd Brasil, wedi cadarnhau ei fod e’n dioddef o’r coronafeirws – ar ôl bod yn wfftio difrifoldeb y feirws ers misoedd.

Fe wnaeth e gadarnhau ei ddiagnosis wrth wisgo mwgwd er mwyn siarad â newyddiadurwyr yn y brifddinas Brasilia.

Mae wedi cael tynnu ei lun yn cyfarch pobol drwy estyn llaw nifer o weithiau, gan fynd allan ymhlith y cyhoedd heb wisgo mwgwd.

Fe fu’n mynnu ers tro bod ei gefndir fel athletwr yn ei warchod rhag y feirws y mae’n ei alw’n “ffliw”, ac nad oes ffordd o warchod 70% o boblogaeth y wlad yn erbyn Covid-19.

Fe fu hefyd yn feirniadol o benderfyniad awdurdodau lleol i gau busnesau.

Mae Brasil ymhlith y gwledydd sydd wedi gweld y nifer fwyaf o achosion o’r feirws ers dechrau’r ymlediad.

Daw’r newyddion am Jair Bolsonaro ar ôl i sawl aelod o’i lywodraeth gael eu taro’n wael â’r feirws, er iddo yntau gael tri phrawf negyddol cyn hyn.