Mae menter genedlaethol wedi cael ei lansio gan Gyfoeth Naturiol Cymru i annog pobol i leisio’u barn am ddyfodol byd natur Cymru.

Bydd Natur a Ni yn dechrau gyda ‘sgwrs genedlaethol’ ddeng wythnos i drafod yr ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, a’r rôl y gall unigolion, busnesau, a sefydliadau ei chwarae wrth fynd i’r afael â nhw.

Gall cyfranwyr drafod sut y dylai meysydd allweddol, gan gynnwys systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd, addasu er mwyn lleihau eu hôl-troed carbon a’u heffaith ar yr amgylchedd naturiol.

Bydd sylwadau sy’n cael eu cyfrannu yn ystod y sgwrs genedlaethol hon yn cael eu defnyddio i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol yr amgylchedd.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r fenter yn “gam nesaf pwysig” i edrych ar y gweithredu brys sydd ei angen dros y ddegawd nesaf, a thu hwnt i hynny.

‘Mae angen i ni weithredu nawr’

Un sy’n cefnogi’r gwaith yw cyn-flaenasgellwr Cymru a’r anturiaethwr, Richard Parks, sydd hefyd yn llysgennad gyda’r fenter.

“Mae Natur a Ni yn ymgyrch i gynnwys pawb yng Nghymru mewn trafodaeth agored a didwyll am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol,” meddai.

Richard Parks

“Rydyn ni’n gwybod bod gan bobol Cymru – o unigolion i gwmnïau i’r llywodraeth – ran i’w chwarae wrth warchod ein hamgylchedd naturiol, ond nid yw pawb yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i fynegi eu barn.

“Cod post, hil, rhyw neu oedran, gyda’n gilydd, gallwn benderfynu pa newidiadau y mae angen i ni eu gwneud.

“Rwyf wedi ymrwymo i ddweud fy marn a byddwn yn annog pob dinesydd Cymreig i ddefnyddio’u llais.

“Mae angen i ni weithredu nawr i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac rydym hefyd am greu gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein plant.

“Gweledigaeth y gall pawb yng Nghymru weld eu hunain ynddi, un sy’n gyraeddadwy.”

‘Rhaid inni warchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’

Julie James

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn annog pawb i gymryd rhan yn ymgyrch Natur a Ni, yn enwedig busnesau a sefydliadau cyhoeddus.

Gall pobol gymryd rhan drwy ddarllen gwybodaeth am yr argyfyngau hinsawdd a natur ar-lein, llenwi holiadur, neu gofrestru ar gyfer digwyddiadau.

“Mae mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn – rhaid inni warchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

“Mae sgyrsiau fel hon sy’n cael eu harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru mor bwysig oherwydd mae angen dull ‘Tîm Cymru’ os ydym am gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adfer byd natur.

“Byddwn yn annog pawb i gymryd yr amser i ddarganfod mwy am yr ymgyrch Natur a Ni, ac i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”