Mae’r nifer o bobol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru wedi torri record am yr ugeinfed mis yn olynol.
Er bod y rhestrau aros wedi tyfu llai yn ystod mis Rhagfyr 2021 nag yn ystod yr un mis arall ers dechrau’r pandemig, roedd 683,331 o bobol yn aros am driniaethau.
Cynyddodd y nifer o bobol sydd wedi bod yn aros dros naw mis am driniaeth i 244,331, sef y nifer uchaf erioed, gyda chynnydd o 2,664.
Erbyn hyn, mae bron i 50,000 o bobol yn aros ers dros ddwy flynedd, cynnydd o 22,000 yn y tri mis hyd at fis Rhagfyr.
Gwellodd amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys.
Eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun adfer i ddelio â rhestrau hir y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei gyhoeddi fis Ebrill.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru, a Phlaid Cymru wedi mynegi siom bod rhaid aros tan fis Ebrill am y cynllun.
Does dim modd cyhoeddi’r cynllun yn gynt gan fod ansicrwydd yn parhau am effaith Omicron a sut y bydd systemau rheoli heintiau yn parhau i effeithio ar ysbytai, meddai Gweinidog Iechyd Cymru.
Y pandemig yn “ergyd fawr”
Yn ôl Hefin David, Aelod o’r Senedd Caerffili dros y Blaid Lafur, mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi profi “ergyd fawr” yn sgil y pandemig, ac mae’n fodlon aros er mwyn clywed cynlluniau Llywodraeth Cymru.
“Cefais sgwrs gyda chyn-Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Julie Paget, sydd nawr yn Brif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac fe ddywedodd [ein bod] ni wir yn llwyddo gyda’n rhestrau aros cyn Covid, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ond ein bod ni wedi profi ergyd fawr o ganlyniad i Covid, sy’n codi heriau enfawr,” meddai Hefin David wrth golwg360.
“Rwy’n rhoi pob clod i’r Llywodraeth, ond rwyf i hefyd yn fodlon aros i glywed beth fyddan nhw’n ei wneud.
“Fe allwch chi fod yn feirniadol iawn ar lefel gyffredinol gan ddweud ’mae hyn yn warthus’, ond mae lot o hyn yn unigryw i’r pandemig, ac rwy’n credu mai dyna mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag e, ac rwy’n hapus i roi amser iddyn nhw.
“Rwy’n erfyn ar bobol yn fy etholaeth i gysylltu â fy swyddfa os ydyn nhw’n poeni, ac rwy’n fwy na hapus i ysgrifennu at y bwrdd iechyd ar eu rhan, fe allaf ymddwyn fel dolen gyswllt rhwng unrhyw un sy’n poeni â’r bwrdd iechyd.”
‘Angen cynllun adfer nawr’
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y llywodraeth am gyhoeddi cynllun i ddelio â rhestrau aros. Cafodd cynllun tebyg ar gyfer Lloegr ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos hon.
Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, “does dim amser i’w gwastraffu”.
“Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod llai o bwysau yn sgil y coronafeirws ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i ymateb i’r newyddion da hyn,” meddai Rhun ap Iorwerth AoS.
“Wrth wynebu tasg mor sensitif o ran amser â chael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ôl ar y trywydd iawn, nid oes amser i’w wastraffu.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar allu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddiagnosio a thrin cleifion – mae’r amseroedd aros bellach yn ofnadwy. Ond doedden nhw ddim yn ddigon da cyn y pandemig.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod gyda chynllun adfer nawr, yn union fel y dylen nhw fod wedi cael cynllun ar waith cyn y pandemig. Mae mis Ebrill yn rhy hir i aros am fater mor bwysig.”
“Gwirioneddol ofnadwy”
Fe ddywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russel George, bod yr ystadegau’n dangos faint o waith sydd i’w wneud i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd mewn cyflwr addas.
“Roedd y rhestr aros am driniaethau eisoes ar ei uchaf erioed ddwy flynedd yn ôl, roedden ni’n gweld yr amseroedd aros hiraf erioed cyn Covid yn 2019, mae gwelyau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn cael eu cwtogi o flwyddyn i flwyddyn, gyda thraean yn llai nawr o gymharu â phan ddaeth Llafur i rym, ac mae miloedd o swyddi gwag i’w llenwi o hyd.”
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, mae hi’n siomedig gweld nad oedd rhestrau aros yn rhan o gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
“Mae’r ffigurau hyn yn wirioneddol ofnadwy,” meddai Jane Dodds.
“Er bod y pandemig wedi arwain at bwysau ychwanegol ar y Gwasnaeth Iechyd yng Nghymru, ni allwn esgus nad yw wedi bod mewn argyfwng ers blynyddoedd bellach.
“Roedd yn siomedig gweld nad oedd unrhyw sôn am amseroedd aros yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Ni allwn fforddio i’r Llywodraeth golli ffocws ar y materion pwysicaf hyn.”