Mae Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi datgan ei chefnogaeth i aelodau undeb ym Mhrifysgol Abertawe a’r Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n streicio dros dâl teg.

Dywedodd Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg Ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, bod angen cefnogi arferion cyflogaeth mwy sicr, “sy’n talu’n well ac yn decach”, ymhob sector.

Mae staff mewn 68 o brifysgolion dros y Deyrnas Unedig sy’n aelodau o’r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn cynnal streic am hyd at ddeng niwrnod i fynnu cyflogau, pensiynau, ac amodau gwaith tecach.

Dechreuodd staff mewn 44 o brifysgolion, gan gynnwys Abertawe, streicio dros bensiwn ddydd Llun (14 Chwefror), ac mae disgwyl i 24 prifysgol arall ymuno â’r streic ddydd Llun nesaf (21 Chwefror) i fynnu tâl ac amodau gwaith gwell.

Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn galw ar gyflogwyr i wyrdroi’r toriadau i bensiynau staff, cynnig codiad cyflog o £2,500 i staff, a mynd i’r afael â phwysau gwaith, anghydraddoldeb tâl, a chytundebau gwaith ansefydlog.

“Dyletswydd i godi llais”

Ymunodd Sioned Williams AoS â’r llinell biced yn Abertawe ddydd Llun, a bydd hi’n ysgrifennu at Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar y mater.

“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun, ynghyd â’r sgyrsiau ac e-byst niferus rwyf wedi eu cael fod y gweithwyr sydd ar streic yn bobl ymroddedig sy’n angerddol am eu gwaith, eu myfyrwyr a’u prifysgol. Nid oeddent eisiau mynd ar streic,” meddai Sioned Williams AoS, sy’n cyn-aelod o bwyllgor yr Undeb Prifysgolion a Cholegau a chyn-aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe.

“Ond yn sgil y ffaith fod chwyddiant yn cynyddu’n uwch na chyflogau, yn ogystal â chytundebau ansicr, llwythi gwaith anniogel, newidiadau niweidiol i gynlluniau pensiwn ac anghydraddoldebau hil a rhywedd parhaus, maen nhw’n teimlo dyletswydd i godi llais a gweithredu.

“Ar adeg pan fo cymaint yn wynebu argyfwng costau byw a’r straen aruthrol sy’n dod yn ei sgil, dylem gefnogi arferion cyflogaeth mwy sicr, sy’n talu’n well ac sy’n decach ym mhob sector, gan gynnwys y sector addysg uwch.

“Nid yw ‘levelling up’ yn golygu dim tra bo gweithwyr yn cael eu cadw i lawr.”

“Cosbi’r gweithlu”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, Jo Grady, bod is-gangellorion prifysgolion wedi “gwthio drwy doriadau pensiwn brwnt, a heb wneud dim i fynd i’r afael â gostyngiad mewn tâl, anghydraddoldeb tâl, y defnydd o gytundebau ansefydlog, na phwysau gwaith amhosib”.

“Yn hytrach na chosbi’r gweithlu, mae angen i’r arweinwyr honedig hyn edrych ar eu hunain a gofyn pam bod myfyrwyr yn cefnogi staff sy’n streicio a pham bod eu gweithluoedd wedi digalonni i’r fath raddau,” meddai Jo Grady.

“Mae myfyrwyr yn sefyll gydag ein haelodau oherwydd maen nhw’n gwybod bod staff prifysgolion yn cael eu gorweithio a’u tandalu. Ac maen nhw’n gwybod bod y sector hwn, sydd yn llawn arian, yn gallu fforddio trin eu gweithwyr gydag urddas.”