Bydd mwy o deuluoedd yng Nghymru yn cael arian ychwanegol er mwyn helpu gyda chostau fel gwisgoedd ysgol a dillad chwaraeon.

Yn y gorffennol, roedd Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) Llywodraeth Cymru ar gael i blant o rai oedrannau’n unig, ond bellach mae wedi’i ymestyn i gynnwys plant cymwys o bob oedran hyd at Flwyddyn 11.

Mae’r grant yn darparu hyd at £200 i helpu teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynd i’r ysgol, megis gwisg ysgol, dillad chwaraeon, ac offer ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd ymestyn y grant yn un ffordd o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad dysgwyr, yn enwedig o ystyried y “pwysau eithafol” sydd ar deuluoedd yn sgil cynnydd mewn costau byw.

“Help mawr”

Dywedodd un ddynes, sy’n fam sengl i dri o blant, bod cael mynediad at y grantiau wedi bod yn “anhygoel”, ac yn “help mawr”.

“Roeddwn i’n gallu gwneud cais am y grant ar gyfer fy merch ieuengaf a ddechreuodd yn y dosbarth Derbyn ym mis Medi, ac yn gallu prynu popeth oedd ei angen arni, yn ogystal â rhai crysau-t a theits ychwanegol,” meddai’r ddynes, nad oedd am gael ei henwi.

“Ers i’r grant gael ei ymestyn i bob grŵp blwyddyn, rydw i wedi gwneud cais ar gyfer fy merch hynaf sydd ym Mlwyddyn 4.

“Fe wnes i gais ar-lein, a chefais e-bost o fewn rhai oriau yn dweud bod y cais wedi cael ei dderbyn, ac y byddwn yn cael yr arian o fewn 14 diwrnod.

“Bydd yr arian hwn yn help mawr, gan fod costau popeth yn codi cymaint. Byddaf yn gallu gwneud yn siŵr bod ganddi wisg ysgol newydd ar gyfer yr haf.”

“Mynd i’r afael ag effaith tlodi”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, bod Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o’r “pwysau eithafol” sydd ar deuluoedd wrth i gostau byw godi.

“Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad dysgwyr yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon, ac mae cael gwared ar y rhwystrau a’r pryder ynghylch costau’r diwrnod ysgol drwy fuddsoddi yn y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad), yn un ffordd y gallwn gefnogi ein plant, ein pobl ifanc a’u teuluoedd,” meddai Jeremy Miles.

“Mae Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd ar draws Cymru, a thrwy ymestyn y ddarpariaeth, mae’n golygu y bydd mwy o blant yn gallu elwa, a phrynu’r dillad a’r offer sydd eu hangen arnynt.

“Rydw i am sicrhau nad yw incwm yn rhwystro plant rhag gallu gwneud gweithgareddau yn yr ysgol, a’u bod yn gallu cymryd rhan yn yr un gweithgareddau â’u cyfoedion ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial.”

Cyhoeddi pecyn o fesurau pellach i helpu gyda’r argyfwng costau byw

Roedd cynnig Canghellor y Deyrnas Unedig “yn annigonol ac nid oedd yn dod yn agos i’r hyn sydd ei angen ar bobol,” medd Llywodraeth Cymru