Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r ddarpariaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl “ar frys” i bobol ifanc.

Daw’r alwad wrth i amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl gyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mewn ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, mae 78% o gleifion a gafodd eu cyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol yn wynebu gorfod aros am dros bedair wythnos ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae hyn yn dangos pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaeth arbenigol.

“Yr amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i bobol ifanc yw’r gwaethaf ar gofnod erbyn hyn,” meddai.

“Mae’r rhain yn bobol ifanc yr ystyriwyd bod angen triniaeth arbenigol ar frys arnynt, ac eto maent yn cael eu gorfodi i aros dros fis i’w gweld hyd yn oed.

“Mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau CAMHS, ond mae’n rhaid iddi hefyd ganiatáu i bobol ifanc gael gafael ar gymorth yn gynharach, cyn iddynt gyrraedd y pwynt lle mae angen y gofal arbenigol hwn arnynt.

“Mae’n rhaid i ni gael darpariaeth gadarn ar waith fel y gall cleifion gael y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i’w sefyllfa waethygu, fel y gwelsom yn rhy aml o lawer.”

Amseroedd ambiwlans

Fe gyfeiriodd hefyd at amseroedd aros ambiwlansys, “sy’n dangos fwy nag unrhyw beth o bosib sut mae llif cleifion drwy’r system iechyd a gofal wedi arafu i stop, mae’n ymddangos, bron”.

“Mae targed y gwasanaeth ambiwlans o gyrraedd y cleifion mwyaf sâl o fewn wyth munud mewn 65 y cant o achosion wedi cael ei fethu ers blwyddyn a hanner,” meddai.

“Pa bryd mae’r Gweinidog yn disgwyl i’r gwasanaeth ambiwlans allu cyrraedd y targed?”

‘Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi yn garedig i fi heddiw, ar fy mhen-blwydd’

Wrth ymateb ar lawr y siambr, ymatebodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan ar nodyn ysgafn.

“Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi yn garedig i fi heddiw, ar fy mhen-blwydd i, ond mae hwnna’n gwestiwn teg ac mae’n gwestiwn anodd, ac mae yn gwestiwn dwi’n poeni’n fawr ynglŷn ag e,” meddai.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dros £34m o arian ychwanegol i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros fisoedd y gaeaf.

“Rydym ni wedi taflu lot o arian at y gwasanaeth ambiwlans, rydym ni wedi rhoi lot mwy o adnoddau iddyn nhw ac maen nhw wedi recriwtio lot fawr yn fwy o bobl,” meddai.

“Ond dyw hi ddim yn ddigon, ac mae’r amseroedd aros yn anfaddeuol.

“Dyna pam dwi wedi bod yn gofyn heddiw a ddoe ynglŷn â beth mwy gallwn ni ei wneud. Achos os rydym ni jest yn rhoi mwy o arian i’r gwasanaeth ambiwlans, beth welwn ni efallai yw mwy o ambiwlansys tu fas i’r ysbytai. Wel, dyw hwnna ddim yn helpu.

“Dyw hynny ddim yn digwydd, ac felly mae angen mwy o bwysau arnyn nhw. Beth rydym ni’n trio ei weld nawr yw beth yn union yn fwy gallwn ni wneud i efallai creu incentive neu rywbeth fel ein bod ni ddim yn cario ymlaen yn y sefyllfa yma, achos mae’r rhestrau lot yn rhy hir.”

Buddsoddi £34m ychwanegol i gefnogi gwasanethau ambiwlans dros y gaeaf

Mae’r buddsoddiad yn cynnwys £11m i barhau â chymorth y lluoedd arfog nes diwedd mis Mawrth