Mae menter gymunedol i brynu tafarn yn Llanuwchllyn yn rhybuddio na fyddan nhw’n gallu prynu’r Eagles oni bai eu bod nhw’n codi’r holl arian ymhen pythefnos.
Bydd yr ymgyrch i godi £450,000 i brynu a rhedeg y dafarn yn dod i ben ar Fedi 17, a hyd yn hyn maen nhw wedi pasio’r marc o £100,000.
Heb unrhyw brynwr arall, mae Menter yr Eagles yn poeni eu bod nhw am “golli rhan hanfodol” o’r gymuned oni bai eu bod nhw’n gweithredu.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Eleri a Meirion Pugh i ymddeol ar ôl dros ddau ddegawd yn rhedeg y dafarn.
Nod y fenter yw prynu’r Eagles fel ei bod yn parhau i weithredu fel tafarn, bwyty a siop gymunedol.
Mae cyfranddaliadau ar werth mewn blociau o £500, a bydd yr arian yn mynd tuag at brynu, rhedeg a datblygu’r Eagles.
“Oherwydd pwysigrwydd yr Eagles fel canolbwynt i’r gymuned mae cytundeb unfrydol yn yr ardal a thu hwnt mai’r ffordd orau i ddiogelu’r Eagles ar gyfer y dyfodol, a chenedlaethau’r dyfodol, yw iddi gael ei pherchnogi a’i rhedeg gan y gymuned,” meddai Grisial Llewelyn, Cadeirydd Menter yr Eagles.
Buddsoddiad o Batagonia
Mae’r Fenter mewn “trafodaethau aeddfed iawn” gyda darpar denant i redeg y dafarn o ddydd i dydd hefyd, a’r flaenoriaeth nawr yw cyrraedd y targed ariannol erbyn Medi 17 a dod i gytundeb terfynol gyda’r darpar denant fel eu bod nhw’n cymryd drosodd yn ystod hydref eleni.
“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth a diddordeb enfawr dros yr haf, ac mae hyn wedi trosi’n llif sylweddol o fuddsoddiad yn y Fenter,” meddai Elfyn Llwyd, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a chyn Aelod Seneddol o Lanuwchllyn.
“Rydym ymhell uwchlaw’r marc o £100,000 ac rydym yn hynod ddiolchgar i bob unigolyn, teulu, cymdeithas a busnes o’r ardal leol a thu hwnt sydd eisoes wedi buddsoddi.
“Rydyn ni’n rhyfeddu at y diddordeb sy’n cael ei ddangos ac o ble mae’n dod – rydyn ni hyd yn oed wedi derbyn buddsoddiad o’r Wladfa, sy’n arbennig iawn o ystyried ein cysylltiadau agos iawn.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi – os na fyddwn yn cyrraedd ein targed ariannol mewn pryd, ni fyddwn yn gallu prynu ac yna rhedeg yr Eagles.
“Felly, gyda phythefnos yn unig i fynd rydym yn erfyn ar bawb sy’n cefnogi ein gweledigaeth i fuddsoddi, ac i fuddsoddi erbyn yr 17eg o Fedi.”
‘Ergyd enfawr’
Ychwanegodd Iwan Arthur Jones, Aelod o Bwyllgor Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn, bod chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb wedi bod yn cwrdd yn yr Eagles ar ôl gemau ers sefydlu’r clwb yn 1957. Yno mae’r pwyllgor yn cyfarfod hefyd.
“Rydym yn hynod falch bod gennym ddau dîm yn y pentref o’r tymor hwn ymlaen, gyda’r ail dîm yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu a chefnogi ein chwaraewyr ifanc,” meddai Iwan Arthur Jones.
“Byddai colli’r Eagles yn ergyd enfawr i’r clwb gan fod y dafarn wedi bod yn ganolog i’n bodolaeth o’r cychwyn cyntaf.”