Mae Syr Chris Bryant wedi cael ei benodi i gabinet cysgodol y Blaid Lafur yn San Steffan.

Aelod Seneddol y Rhondda yw llefarydd y blaid ar y diwydiannau creadigol a digidol, wedi i’r arweinydd, Keir Starmer, wneud newidiadau i’w gabinet.

Yn dilyn ei benodiad newydd, mae’r Aelod Seneddol wedi camu o’i rôl flaenorol fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

“Gan fy mod bellach yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwydiannau Creadigol a Digidol rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i’r Llefarydd ar unwaith – ac rwy’n golygu ar unwaith,” meddai’r gwleidydd ar blatfform X, Twitter gynt.

“Bydd unrhyw un sydd erioed wedi eistedd ar y pwyllgor safonau yn cytuno nad yw’n dasg hawdd,” meddai mewn llythyr wedi ei gyfeirio at Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Er ei fod wedi camu i lawr, dywedodd bod gan ei olynydd lawer o waith i’w wneud eto o ran sicrhau safonau ymddygiad Aelodau.

“Rwy’n poeni, gyda gormod o sefydliadau’n rheoleiddio ymddygiad Aelodau Seneddol – a chyda gormod o godau ar wahân – bod perygl na all yr Aelodau na’r cyhoedd, o bosibl, ddeall y cymysgedd o reoliadau,” meddai.

Cryfhau’r cabinet

Gwnaed nifer o benodiadau eraill yn ystod yr ad-drefniad gydag Angela Rayner yn cael ei phenodi fel llefarydd Codi’r Gwastad y blaid Lafur a Dan Jarvis fel llefarydd yr wrthblaid dros ddiogelwch yn y Swyddfa Gartref.

Er hynny, nid oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud yn rolau uchaf y cabinet cysgodol.

Yr Aelod Seneddol Stella Creasy fydd yn cymryd cyn-rôl Chris Bryant a bu iddi ei longyfarch am ei waith fel y Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

“Mae Chris wedi gwneud gwaith gwych, ac nid yw erioed wedi bod yn bwysicach ein bod yn cael trefn ar ein tŷ fel bod pawb – yn staff, yn Aelodau Seneddol, yn bleidleiswyr ac yn ymwelwyr – yn gallu bod yn falch o’n Senedd,” meddai ar X.

“Byddaf yn ceisio cefnogaeth cydweithwyr i ymgymryd â’r her honno dros y misoedd nesaf.”

Fe wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak ad-drefnu rywfaint ar ei gabinet Ceidwadol gychwyn yr wythnos hefyd, ac mae disgwyl bydd ad-drefnu ehangach yn digwydd dros y misoedd nesaf.

Bydd y ddwy blaid yn cynnal eu cynadleddau blynyddol fis Hydref a’r bwriad yw cryfhau eu cabinet wrth i’r etholiad cyffredinol nesaf agosáu.