Dyma ailgyhoeddi colofn Golwg o 2011 gan y llenor mawr Gareth Miles.
Bu farw un o lenorion pennaf Cymru, Gareth Miles, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn 85 oed. Roedd yn enedigol o Gaernarfon ond roedd ef a’i deulu wedi ymgartrefu ym Mhontypridd, ac yng nghanol y dref honno roedd ei swyddfa.
Ym mis Chwefror 2011, ef oedd gwestai’r golofn wythnosol ‘Fy Ngweithdy i’ yng nghylchgrawn Golwg. Dyma gyfle i’w mwynhau unwaith eto.
Mae swyddfa’r dramodydd, y nofelydd a’r beirniad llenyddol Gareth Miles oddi ar Heol Taf, prif stryd Pontypridd…
Ar y naill law mae yna siop chips, ar y llaw arall mae siop hen ddillad y fyddin. Ar y drws, mae’r geiriau Albany Slimming Clinic. O’r fan hyn, dw i’n gweld y cemydd, Thornton’s, a siop llysiau wedi cau. Hefyd, mae River Island i lawr fan’na.
Mae hi’n handi; mae pob man dw i angen ymweld ag o o fewn pum munud i fan hyn – llyfrgell, doctor, deintydd, y dyn llygaid, a siopau.
Pan ddechreuais i sgrifennu yn broffesiynol yn 1982, roedd fy nhair o ferched – Elen, Branwen ac Eiry – adre, wedyn doedd yna ddim lle i mi gael stafell i mi fy hun. Mae’r swyddfa yma yn eiddo i gwmni Marchnad Pontypridd, ac maen rhan o’r bloc o adeiladau enwog Marchnad Pontypridd. Mater o raid oedd hi, ond yn sicr dw i’n gweld hynny yn fanteisiol.
Gwaith ydi sgrifennu i mi, dw i’n mynd i ngwaith tua’r un pryd a phobol eraill, yn cael paned o goffi tua 11 a brechdan amser cinio, ac yn gorffen tua 4 i 5.
Weithiau dach chi’n clywed sôn am y writer’s block enwog; dw i’n siwr mai pobol sy’n gweithio adre sy’n cael hynny. Hynny ydi, mae yna dynfa emosiynol rhwng y gwaith a’r cartref. Ond wrth ddod i’r gwaith, mater o waith ydi o. Fedra i fynd â’r gwaith adre yn fy mhen, sy’n beth gwahanol. Mi fydda i’n dweud o hyd wrth sgwennwyr ifanc, mae’n rhaid i chi gael stafell i chi’ch hun, hyd yn oed os ydych chi’n gweithio adre. Yr unig beth dach chi eisie ydi desg a chadair gyffyrddus. Mae hon yn gadair executive, gan fy mod i’n hunangyflogedig, dw i’n bennaeth ar fy nghwmni fy hun!
Mewn ffordd, mae’r parwydydd yn debyg i stafell wely rhywun yn eu harddegau. Posteri o ddigwyddiadau, ac arwyr. Nid cantorion pop, actorion a chwaraewyr rygbi sy’ ma, ond Nelson Mandela, Che Guevara, Malcolm X, Marx a Lenin, a rhai o arweinwyr plaid gomiwnyddol yr Eidal. Wedyn posteri dramâu dw i wedi’u sgrifennu – Y Bacchai, Duges Amalfi, Calon Ci, Y Madogwys. Ar y wal yma, mae lluniau tipyn o feirdd – R Williams Parry, Lorca, Balzac… a Marilyn Monroe yn chwifio’i llaw o gefn ryw gar. Mae o yn llun gwych iawn – mae llawer o bobol yn teimlo tosturi mawr tuag at Marilyn Monroe a’r hyn ddigwyddodd iddi.
Mae gen i luniau gan fy wyrion, Osian ac Esyllt, a ffoto o fy ngwraig Gina. Mae gen i ŵyr arall Gwyn Llywarch, sydd ond yn naw wythnos oed.
Y siec am £7 oedd un o’r siecs ola ges i pan o’n i’n sgwennu i’r Faner. Wnes i erioed trio’i godi fo i drio helpu’r hen Faner druan.
Faswn i’n licio pe tasai gen i ddawn llyfrgellydd. Ar y cyfan, mae’r llyfrau Cymraeg efo’i gilydd, y llyfrau Saesneg efo’i gilydd a’r llyfrau Ffrangeg efo’i gilydd. Mae’r llyfrau dw i wedi’u sgrifennu fwy neu lai efo’i gilydd. Dw i’n gwybod lle mae popeth.
Y rhai pwysig yw Geiriadur y Brifysgol, geiriadur Bruce, geiriadur Ffrangeg a Sbaeneg… y cyfeiriaduron.
Mae hi’n bwysig cael y radio – gwrando ar newyddion canol dydd, Taro’r Post ganol dydd weithiau, neu fiwsig cefndir ar Radio 3.
Mi gefais flwyddyn reit gynhyrchiol llynedd – gorffen nofel, a dw i wedi sgrifennu drama wedi’i lleoli ym Mhatagonia a’r Ariannin am deulu Cymraeg yng nghyfnod yr unbennaeth rhwng 1976 a 1982. Mae gen i egin nofel yn troi yn fy mhen hefyd.
Mae o yn lle da hyd yn oed i feddwl. Tasa rhywn adre se rhywun yn diogi yn neud paned, hyd yn oed swn i’n mynd allan o fan hyn i gaffi am baned, mae meddwl rhywun yn dal i ganolbwyntio. Dw i’n licio fan hyn. Dw i’n cael y stafell ar delerau reit ffafriol. Pan oeddwn i’n gweithio adre ar adegau, o’n i’n ei gael yn brofiad annymunol iawn. Mae yn fy ngwneud i yn fewnblyg iawn. Os dw i’n dod fan hyn, dw i ddim yn teimlo’r mewnblygrwydd.