Mae cyngor Caerdydd wedi beirniadu datblygwyr am ddymchwel adeiladu hanesyddol yn y brifddinas heb i’r cais gael ei gymeradwyo.
Maent yn honni bod y cwmni GT Guildford Crescent Ltd wedi mynd yn erbyn telerau eu cais cynllunio wrth iddynt ddymchwel wyneb chwe adeilad teras Fictoraidd ger canol y ddinas.
Yn ôl y cyngor, fe wnaethon nhw ofyn i’r datblygwyr i beidio â dymchwel yr adeiladau.
Cafodd cynlluniau i ddymchwel corff yr adeiladau eu pasio gan y cyngor yn ôl yn 2018 ond mewn cytundeb gyda’r teulu oedd yn berchen ar y safle, cytunwyd y byddai ffasâd y stryd yn cael ei gadw.
Gwnaeth y cwmni adeiladu gais i ddymchwel ac ail-adeiladu’r rhain ar 17 Awst 2023 gan honni nad oedden nhw’n ddiogel bellach.
Bwriad y cwmni yw codi bloc o fflatiau uchel 30 llawr ar y safle.
Ond, yn ôl cyngor Caerdydd, doedd y cynlluniau heb gael eu pasio cyn i Guildford Crescent Ltd gychwyn ar y gwaith dymchwel.
‘Risg iechyd a diogelwch’
Yn eu cais i’w ddymchwel, dywedodd Guildford Crescent Ltd bod gormod o waith angen ei wneud ar y waliau.
“O ystyried cyflwr y wal bresennol, mae maint y gwaith sydd ei angen ar y wal a’r gwaith sydd ei angen yn agos at y wal yn arwain at bryder gwirioneddol ynghylch sefydlogrwydd y wal yn ystod y gwaith adeiladu,” meddai.
“Fe’n hysbysir bod cwymp rhannol yn bosib yn ystod y gwaith adeiladu, sy’n peri risg i iechyd a diogelwch.”
Mae’r cyhoedd wedi bod yn gwrthwynebu dymchwel yr adeiladau hanesyddol ers 2019 gyda thua 20,000 o bobol yn arwyddo deiseb i’w hamddiffyn.
Pan basiwyd y cynlluniau ar gyfer y bloc fflatiau yn Nhachwedd 2021, cytunwyd y byddai’r cyn-leoliad cerddoriaeth Gwdihŵ a’r cyn-fwytai Madeira a Thai House yn cael eu harbed ac yn ffurfio llawr gwaelod y twr.
Dal i gyfrif
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd y bydden nhw’n dal y datblygwyr yn atebol am ddymchwel yr adeiladau.
“Hoffai’r Cyngor ei gwneud yn glir bod cael gwared ar y ffasâd ar Guildford Crescent gan GT Guildford Crescent Limited, cyn i unrhyw benderfyniad ffurfiol gael ei wneud ar eu cais diweddar, yn gwbl annerbyniol, a byddwn yn archwilio pob llwybr posibl i sicrhau bod y datblygwr yn cael eu dal yn atebol am dorri amodau’r caniatâd cynllunio,” meddai llefarydd.
“Yn dilyn ymchwiliadau ar unwaith, mae’r datblygwr ers hynny wedi darparu adroddiad peiriannydd adeileddol sy’n dweud bod ‘y wal yn anniogel, yn peri risg difrifol ac y dylid ei dymchwel ar unwaith er mwyn gwneud y safle’n ddiogel ac atal anaf neu niwed i weithredwyr ar y safle ac aelodau o’r cyhoedd’.
“Ers hynny mae Syrfëwr Rheoli Adeiladu o’r Cyngor wedi ymweld â’r safle ac wedi cadarnhau asesiad y peiriannydd bod yn rhaid, yn anffodus, symud gweddill y ffryntiau teras am resymau diogelwch.”
Dywedodd y cyngor bydd y mater yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Hydref.
Mae’r Aelod Seneddol Llafur dros Caerdydd Canolog, Jo Stevens, wedi anfon llythyr at y datblygwyr yn galw am esboniad ar unwaith ynglŷn a’u penderfyniad.
“Mae’r camau gweithredu unochrog a hollol anghyfiawnadwy yr ydych wedi’u cymryd i ddinistrio’r ffryntiau hanesyddol yn dangos diystyrwch amlwg o’r gyfraith, i arwyddocâd hanesyddol y safle, i’r broses gynllunio ac i’m hetholwyr a phobol ar draws ein prifddinas,” meddai.
“Mae gweithredoedd eich cwmni yn sarhad i’r ddinas ac i’r bobol sydd wedi ymladd ac wedi ennill yr hawl i amddiffyn cymeriad hanesyddol Guildford Crescent.”
Ailadeiladu’r ffasâd
Bydd hyn yn gyfle i Aelodau drafod y cynnig i ailadeiladu’r ffasâd a’r camau angenrheidiol i ddal y cwmni i gyfrif.
Dywedodd llefarydd sy’n gysylltiedig â’r cwmni bod y dymchwel wedi digwydd er mwyn cymryd iechyd a diogelwch o ddifrif ac i atal damweiniau posib.
“Fel y dywedwyd eisoes, bydd y ffasâd yn cael ei ail-greu fel rhan o’r datblygiad i gadw cymeriad hanesyddol y cilgant a sicrhau bod y gymuned yn elwa o’r strydlun,” meddai llefarydd.