Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod y Deyrnas Unedig wedi cymryd “cam i’r cyfeiriad cywir” wrth ailymuno â rhaglen wyddonol Ewropeaidd Horizon, ond yn rhybuddio hefyd fod yna rwystrau o hyd i’r byd gwyddonol o ganlyniad i Brexit.
Mae 60 o brosiectau a 1,000 o swyddi yn dal yn y fantol o ganlyniad i “dwll du” gwerth £70m mewn arian strwythurol.
Mae Comisiwn Ewrop a’r Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb gwleidyddol ar gyfranogaeth y Deyrnas Unedig yn rhaglen Ewropeaidd Horizon, sef rhaglen ymchwil ac arloesi’r Undeb Ewropeaidd, a Copernicus, rhaglen arsylwi’r Ddaear yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd aelodaeth gysylltiol wedi’i chytuno fel rhan o’r Cytundeb Masnach a Chydweithio rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Fodd bynnag, mae’r Deyrnas Unedig wedi cael ei chau allan o’r cynllun ers tair blynedd ar ôl i’r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson wrthod gweithredu Protocol Gogledd Iwerddon gafodd ei gytuno fel rhan o’r Cytundeb Masnach a Chydweithio.
Effaith ar Gymru
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi tynnu sylw at ragfynegiadau Llywodraeth Cymru fod Cymru wedi gweld gostyngiad o £32m mewn arian ar gyfer ymchwil gan yr Undeb Ewropeaidd ers refferendwm Brexit o ganlyniad i ansicrwydd gwleidyddol.
Mae hi hefyd wedi cyfeirio at “dwll du ariannu o £70m” o ganlyniad i ddiffyg arian wrth symud o arian yr Undeb Ewropeaidd i arian strwythurol y Deyrnas Unedig.
Ychwanega fod cymuned wyddonol Cymru’n parhau dan anfantais ar gyrion fframweithiau economaidd Ewrop ac wedi’i hamddifadu o’r hawl i symud yn rhydd.
Mae nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymrestru ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig wedi mwy na haneru ers rhoi terfyn ar yr hawl i symud yn rhydd.
Safbwynt Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld y Deyrnas Unedig yn ailymuno â fframweithiau economaidd a masnachu Ewrop.
Yn ôl Liz Saville Roberts, byddai hynny’n sicrhau nad yw cymuned wyddonol Cymru “bellach yn cael ei dal yn ôl rhag gwireddu ei photensial llawn”.
“O’r diwedd, bydd ymchwilwyr Cymru’n gallu cael mynediad ar raglen Horizon yr Undeb Ewropeaidd, gan leddfu blynyddoedd o aflwydd Brexit,” meddai.
“Roedd yr ansicrwydd yma’n golygu bod gwyddonwyr eisoes wedi colli allan ar £32m o ganlyniad i nifer is o lawer o geisiadau am arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
“Bydd mynediad at Horizon yn ailddechrau ymhen tri mis.
“Fydd hyn ddim yn helpu gwyddonwyr yng Nghymru sy’n wynebu twll du ariannol gwerth £70m o ganlyniad i ddiffyg symud yn ddigonol o arian yr Undeb Ewropeaidd i arian strwythurol y Deyrnas Unedig, sy’n fygythiad enfawr i gronfa ymchwil Cymru.
“Mae o leiaf 60 o brosiectau a 1,000 o swyddi yn y fantol ledled Cymru.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddatrys y broblem hon maen nhw wedi’i chreu eu hunain, a chefnogi gwyddonwyr ac ymchwilwyr sy’n wynebu toriadau a cholli swyddi.
“Mae’r niwed yma i wyddoniaeth ac ymchwil yng Nghymru wedi’i achosi gan agwedd ymhongar, di-drefn Brexit Torïaidd a phenderfyniadau gwael.
“Mae’n hanfodol fod gwario ar ddatblygiadau rhanbarthol ar ffurf y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd eisoes £1.1bn yn is nag arian blaenorol yr Undeb Ewropeaidd, yn cyd-fynd â gwariant o raglen Horizon wrth symud ymlaen, yn hytrach na gweithio yn ei erbyn.
“Ers tro, fe fu Plaid Cymru’n galw am ddatganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru fel y gall y Senedd ddefnyddio’r adnodd hanfodol yma mewn modd strategol, gan ei bod yn cael ei chamreoli ar hyn o bryd gan y Deyrnas Unedig ac am nad yw’n diwallu anghenion Cymru.
“Mae ailymuno â Horizon yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond mae ein gwyddonwyr yn dal dan anfantais drwy fod y tu allan i fframweithiau economaidd Ewrop ac wedi’i hamddifadu o’r hawl i symud yn rhydd.
“Dyna pam fod rhaid i’r Deyrnas Unedig ailymuno â’r farchnad sengl, fel nad yw’r gymuned wyddonol yng Nghymru bellach yn cael ei dal yn ôl rhag gwireddu ei photensial llawn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywed Llywodraeth Cymru fod “holl ddyraniad y Gronfa Lewyrch Gyffredin o £585m i Gymru £1.1bn yn llai o’i gymharu ag arian Ewrop”.
“Oni bai am Brexit, mae’n debygol y byddai’r Deyrnas Unedig wedi gwneud cais ac wedi ennill llawer mwy o arian [ymchwil] gan yr Undeb Ewropeaidd nag y gwnaeth yn y blynyddoedd wedi refferendwm Brexit, fel nodwyd yn flaenorol gan y Gymdeithas Flaenorol,” meddai adroddiad Llywodraeth Cymru y llynedd.
“I Gymru, gallai hyn fod wedi golygu gostyngiad ariannol o ryw €38m.”